Amgueddfa dros dro i glwb pêl droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Amgueddfa dros dro sydd wedi ei agor yn nghanol Wrecsam
Mae amgueddfa dros dro sydd yn dathlu hanes Clwb Pêl Droed Wrecsam ar ei ben-blwydd yn 150, wedi agor mewn siop wag yn y dref.
Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Wrecsam yn 1864 felly dyma'r hynaf yng Nghymru a'r trydydd hynaf yn y byd.
Y Cae Ras yw'r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sydd ddal mewn defnydd.
Roedd y cyn-chwaraewr Mickey Thomas yn westai arbennig wrth i'r amgueddfa agor. Chwaraeodd Mr Thomas ran allweddol yng ngêm fuddugol Wrecsam yn erbyn Arsenal yn 1992.
Mae'r amgueddfa yn cynnwys ffilm o Gymru'n chwarae yn erbyn Iwerddon yn 1906 a cafodd ei wneud gan gwmni Mitchell a Kenyon o Sir Gaerhirfryn.

Mae ffilm sydd yn dangos gêm pêl droed yn 1906 i weld yn yr amgueddfa
Dyma, yn ôl y son, oedd y gêm bêl droed rhyngwladol gyntaf i gael ei chofnodi ar ffilm.
Mae'r amgueddfa yn cynnwys eitemau sydd wedi eu rhoi gan aelodau o'r cyhoedd wedi apêl yn gynharach yn y flwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys hen bapurau newydd, rhaglenni a thocynnau.
Mae'r amgueddfa ar agor o 11am i 4pm yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod tan ddydd Sadwrn 31 Mai.

Roedd y cyn-chwaraewr Mickey Thomas yn westai arbennig

Mi fuodd na apêl am eitemau gan y cyhoedd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2014
