Un mewn pedwar o blant yn ordew
- Cyhoeddwyd

Fe ddarganfyddwyd fod plant gyda mamau gordew yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau
Mae astudiaeth newydd yn dangos mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant sydd dros eu pwysau yn y Deyrnas Unedig.
Mae bron i un o bob pedwar o blant a anwyd rhwng 2000 a 2002 yn ordew erbyn eu bod yn 11 mlwydd oed, yn ôl astudiaeth gan y Sefydliad Addysg yn Llundain.
Mae 17% arall o'r plant yn rhy drwm, gan ddod â'r cyfanswm i 40.5% - sy'n uwch na holl ranbarthau eraill y DU.
Mae arbenigwr ar ordewdra Dr Nadim Haboubi wedi dweud mai addysg yw'r allwedd i fynd i'r afael â'r broblem.
Fe gasglodd yr astudiaeth gan y Millennium Cohort (MCS) wybodaeth am bwysau a thaldra dros 13,000 o blant y DU, gan gynnwys 1,752 sy'n byw yng Nghymru.
Cawsant eu mesur yn dair, pump, saith ac un-ar-ddeg oed. Roedd bron i hanner (49%) yr holl blant a brofwyd yn cael eu hystyried fel rhy drwm neu'n ordew ar o leiaf un achlysur.
Yn 11 oed, roedd merched yn pwyso mwy na bechgyn gyda pwysau cyfartalog o 42kg o gymharu â 41kg ar gyfer y bechgyn.
Dr Nadim Haboubi

Dr Haboubi ydi cadeirydd Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru
Dywedodd Dr Haboubi fod problem gordewdra ymhlith plant Cymru ymysg y gwaethaf yng ngorllewin Ewrop.
Fe ganfu'r astudiaeth fod 25% o blant lle nad oes gan eu rhieni unrhyw gymwysterau addysgol yn ordew o gymharu â 15% o'r rhai lle mae gan eu rhieni radd prifysgol.
Hefyd, fe welwyd fod plant gyda mamau gordew yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau neu'n ordew, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gysylltiad rhwng pwysau plant a'u dosbarth cymdeithasol.
Fe ddisgrifiodd Dr Haboubi, cadeirydd Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru, fod gordewdra ymhlith plant yng Nghymru fel "tswnami" a dywedodd fod y broblem yma ymysg y gwaethaf yng ngorllewin Ewrop.
Dywedodd hefyd fod gordewdra ar gynnydd ac yn achosi sgil-broblemau iechyd - gyda meddygon yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd â diabetes math 2.
"Mae hyn yn rhywbeth sydd yn ffenomen newydd." meddai. "Rydym yn gweld plant wyth, naw, 10 oed sydd â diabetes math 2, Mae'n frawychus."
Dywedodd Dr Haboubi addysg yn allweddol i fynd i'r afael â'r broblem. Mae angen i lywodraethau a swyddogion iechyd i ddod at ei gilydd i gytuno ar ffordd ymlaen.
"Dylai gweithgarwch corfforol mewn ysgolion gael eu cynyddu ac mi fyddai aelodaeth campfa a chanolfanau hamdden rhatach hefyd yn helpu," fe ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2014

- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2014
