Dim ymchwiliad heddlu i'r llawfeddyg David Paul Berry
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr Athro Berry ei wahardd ym mis Ionawr wedi i'r marwolaethau ddod i'r amlwg
Mae Heddlu'r De wedi dweud nad ydyn nhw'n ymchwilio i achos llawfeddyg o dde Cymru gafodd ei wahardd o'i waith yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Fe gafodd yr Athro David Paul Berry ei wahardd o'r Ysbyty ym mis Ionawr 2013.
Cafodd ei wahardd wedi i ymchwiliad awgrymu bod modd osgoi marwolaethau wyth o gleifion a oedd yn ei ofal, gafodd lawdriniaethau ar eu iau.
Cafodd yr achos ei gyfeirio at yr heddlu ym mis Rhagfyr 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013
