Busnesau bwyd a diod yn gweld gwerth i'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Yn ôl y Comisiynydd Iaith, Meri Huws, mae'r Gymraeg yn arf marchnata gwerthfawr
Mae gwaith ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dangos bod busnesau bwyd a diod o Gymru yn gweld gwerth masnachol i ddefnyddio'r Gymraeg, a hynny er mwyn denu a chadw cwsmeriaid.
Ddydd Llun yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd bydd y Comisiynydd yn lansio adroddiad ymchwil Gwerth y Gymraeg i'r sector bwyd a diod yng Nghymru.
Fel rhan o'r ymchwil, cafodd cwmnïau bwyd a diod o wahanol rannau o'r wlad eu cyfweld, cwmniau megis Blas ar Fwyd, Caws Cenarth, Edwards o Gonwy, Waffles Tregroes a Llaeth y Llan.
'Arf marchnata gwerthfawr'
Daw'r ymchwil i'r canlyniad bod defnyddio'r Gymraeg yn:
gwneud i'r cynnyrch sefyll allan
cynnig cyfleoedd i werthu mewn marchnadoedd newydd
atgyfnerthu delwedd brand
sicrhau cefnogaeth cwsmeriaid
cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynnyrch
atgyfnerthu tarddiad lleol
arwydd o ansawdd.
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae sefyll allan mewn marchnad gystadleuol wastad yn her, ond yng Nghymru mae gan fusnesau arf marchnata gwerthfawr yn yr iaith Gymraeg.
"Fy ngobaith yw y bydd y dystiolaeth yr ydym wedi'i chasglu yn cryfhau'r neges i fusnesau eraill y gall y Gymraeg fod o fudd ac o fantais iddynt mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd hyn a'u bod yn defnyddio'r dystiolaeth er mwyn adeiladu ar eu defnydd o'r Gymraeg ac yn datblygu ffyrdd o gyflwyno'r iaith i'w brand a'u gweithredoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2014
