Iechyd: Bwrdd iechyd yn cyflwyno gwelliannau
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sydd ynddo
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu cynlluniau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan feddygon teulu tu allan i oriau, a hynny'n dilyn adroddiad beirniadol.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys mesurau i wella'r drefn o reoli a hefyd yn awgrymu ffyrdd i fynd ati i ddatrys y broblem o recriwtio staff.
Yn ôl yr adroddiad roedd y gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol yn cael ei reoli'n wael, heb ddigon o staff, ac yn methu â chyrraedd y nod ar bob lefel.
Fe fydd y cynlluniau newydd yn mynd gerbron Bwrdd Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis nesaf.
Mae'r gwasanaeth tu allan i oriau arferol yn gweithredu pan fo meddygfeydd wedi cau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2015

- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2015

- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2015

- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2014
