Lagŵn: Gwrthod cyhuddiadau o 'weithredu'n amhriodol'
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am lagŵn llanw cyntaf y DU ym Mae Abertawe wedi gwrthod cyhuddiadau am unrhyw weithred amhriodol ynghlwm â chytundebau adeiladu'r prosiect.
Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r honiadau wedi'r penderfyniad i roi cytundeb £300m i gwmni o China.
Fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo bron i wythnos yn ôl, gyda chaniatâd cynllunio am ddolen chwe milltir o hyd - yn ymestyn hyd at ddwy filltir allan i'r môr.
Mae gobaith y bydd y lagŵn cyntaf o'i fath - sydd wedi ei adeiladu yn benodol er mwyn cynhyrchu trydan - yn cynhyrchu digon o ynni gwyrdd, glân i bweru, yn ei anterth, mwy na 150,000 o gartrefi.
Cyn y gymeradwyaeth swyddogol, fe gyhoeddodd y cwmni sy'n gyfrifol am y fenter bod cwmni o China - China Harbour Engineering Company - wedi ennill y cytundeb gwerth £300m i adeiladu'r morglawdd.
Fodd bynnag, ers hynny, mae pryderon am weithredu'n amhriodol wedi codi.
Yn ôl y datblygwyr, Tidal Lagoon Power, daw'r gŵyn gan gwmni aflwyddiannus wnaeth gynnig am y cytundeb i gwbhlau'r gwaith. Mae'r cwmni'n gwrthod yr honiadau - gan ddweud fod y broses dendro yn gadarn a chystadleuol tu hwnt.
Mae adroddiadau'n awgrymu mai cwmni o Wlad Belg sy'n gyfrifol am yr honiadau - mae llywodraeth Gwlad Belg wedi gwrthod gwneud sylw.
Mae Adran Ynni y DU "yn ymwybodol o'r honiadau", a chyfreithwyr cwmni Tidal Lagoon Power yn dweud eu bod nhw'n adolygu'r her.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2015

- Cyhoeddwyd26 Mai 2015

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2014
