Arbrawf Gatland
- Cyhoeddwyd

Pa ffordd fydd yr olwyn yn troi i garfan Cymru yn erbyn Y gwyddelod ar 8 Awst?
Mae Cwpan Rygbi'r Byd yn agoshau ac ar ôl y paratoi dros yr haf bydd 'na gyfle i weld sut mae carfan Cymru yn siapio mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon ar 8 Awst yn Stadiwm y Mileniwm. Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, sy'n asesu dewisiadau Warren Gatland:
Wynebau newydd a hen bennau
Roedd e wastad yn mynd i fod yn dîm arbrofol a'r cwestiwn mawr oedd pa wynebau newydd fyddai'n cael eu cyfle a pha hen bennau byddai wrth i ochr i geisio'u llywio drwy ddyfroedd dyfnion y byd rygbi rhyngwladol.
Dyw e ddim syndod o gwbl gweld y ddau gap newydd tu ôl i'r sgrym. Fe ddaeth Eli Walker yn agos iawn at ennill ei gap cynta' ddwy flynedd nol ac roedd Tyler Morgan wedi dal y llygad gyda'i berfformiadau i'r Dreigiau a thîm dan-20 Cymru.
Un arall o ieuenctid y Dreigiau gas dymor cofiadwy oedd Hallam Amos. Mae cyfle iddo ychwanegu at yr un cap enillodd e yn erbyn Tonga yn 2013 a dangos ei fod yr un mor gyffyrddus fel cefnwr neu asgellwr.

Mae Eli Walker, asgellwr y Gweilch, ymhlith pedwar cap newydd i Gymru
Teyrngawrch i'r Ddraig
Dyw e ddim syndod chwaith gweld Ross Moriarty yn dilyn ôl traed ei dad a'i ewythr. Gyda'i allu i gario pêl a chwarae unrhywle yn y rheng ôl, unwaith roedd e wedi dewis y Ddraig Goch yn hytrach na'r Rhosyn Coch y peth synhwyrol i wneud oedd ei gapio cynted a phosib i'w ymrwymo unwaith ac am byth.
Efallai bod 'chydig syndod na ddewiswyd prop Caerfaddon Tom Francis - un arall sydd wedi denu diddordeb Lloegr.
Un arall sy'n chwarae yn Lloegr yw'r cap newydd arall Dominic Day gynt o'r Scarlets.

Dominic Day, clo Caerfaddon, yn gobeithio am ddiwrnod i'w gofio wrth ennill ei gap cyntaf i Gymru
Profiad i helpu'r ieuenctid
Dim ond dau gap yr un sydd gan Nicky Smith a Dan Baker ond mae 'na brofiad i gynorthwyo'r ieuenctid - nunlle'n fwy na'r hanner - Mike Phillips a 93 cap a 77 gan James Hook sy'n cael cyfle fel maswr rhyngwladol am y tro cynta' am 20 mis. Cyfle mae e wedi ei fynnu gyda safon ei chwarae i Gaerloyw neu gyfle ola' i brofi'i hun i'r tîm rheoli presennol??
Richard Hibbard a Justin Tipuric fydd yn arwain y blaenwyr - Tipuric yn is-gapten, ac yn arwain ei wlad am y tro cynta' Scott Williams - dyfodd mewn i'r swydd gyda'r Scarlets llynedd.
Mae Taulupe Faletau ar y fainc os oes ishe bach o bresenoldeb i droi pethau ond prin yw'r profiad heblaw hynny - Kristian Dacey a Gareth Anscombe yno am y tro cynta'.
Ond gyda'r garfan i'w thorri i ryw 38 yn syth ar ôl gem Iwerddon, yng nghefn meddyliau nifer fawr o'r chwaraewyr hyn bydd y ffaith mai hwn allai fod eu cyfle ola' - am y tro o leia'!

Pa mor anodd fydd hi i Warren Gatland dorri'r garfan i 38 ar ôl y gêm yn erbyn y Gwyddelod?