Pedwar cap newydd i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Bydd James Hook yn cael cyfle arall i brofi ei allu fel maswr Cymru
Mae Warren Gatland wedi dewis tîm dibrofiad i wynebu Iwerddon dydd Sadwrn.
Bydd y blaenasgellwr Ross Moriarty yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf.
Mae'n un o bedwar cap newydd ar gyfer y gêm, yn cynnwys y clo Dominic Day, y canolwr Tyler Morgan, a'r asgellwr Eli Walker.
Mae'r gêm yn gyfle i hyfforddwyr Cymru weld aelodau llai profiadol y garfan yn perfformio cyn Cwpan y Byd.
James Hook fydd y maswr - cyfle arall iddo brofi ei allu fel rhif 10. Mike Phillips fydd y mewnwr.
Y canolwr Scott Williams yw'r capten.
Yn dilyn y gêm mae disgwyl i Gatland leihau maint y garfan hyfforddi o 47 i tua 37.
Bydd y garfan o 31 ar gyfer Cwpan y Byd yn cael ei henwi erbyn diwedd mis Awst.
Mae pob tocyn wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm.
Tîm Cymru i wynebu Iwerddon:
Hallam Amos, Alex Cuthbert, Tyler Morgan, Scott Williams (Capten), Eli Walker, James Hook, Mike Phillips; Nicky Smith, Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Jake Ball, Dominic Day, Ross Moriarty, Justin Tipuric, Dan Baker.
Eilyddion: Rob Evans, Kristian Dacey, Scott Andrews, James King, Taulupe Faletau, Lloyd Williams, Gareth Anscombe, Matthew Morgan.

Ross Moriarty, blaenasgellwr newydd Cymru
Dywedodd Warren Gatland: "Rydym wedi rhoi'r chwaraewyr o dan bwysau mawr ac maen nhw wedi ymateb yn dda iawn.
"Dyma eu cyfle i ddangos eu gallu ar y llwyfan rhyngwladol.
"Mae gennym y cyfuniad iawn o'r ifanc a'r profiadol ac mae'n achlysur enfawr - Iwerddon yn dod i'r dre', a stadiwm sy'n orlawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2015
