Colli 38 o swyddi wrth i gwmni Monwel fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd

Cafodd Monwel ei sefydlu fel menter gymunedol yn 2013 ar ôl bron i 50 mlynedd o fasnachu
Mae menter gymunedol oedd yn cynhyrchu arwyddion ffyrdd ac yn rhoi swyddi i bobl anabl wedi mynd i'r wal.
Fe wnaeth cwmni Monwel, sydd â'i bencadlys yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent, roi'r gorau i fasnachu fis diwetha'.
Mae 38 o bobl wedi colli eu swyddi o ganlyniad.
Yn ôl y diddymwyr, roedd y cwmni wedi methu oherwydd dyledion o £400,000, costau cyflogi uchel a chwymp mewn gwerthiant.
Fis Mai roedd Llywodraeth Cymru wedi canmol y cwmni fel esiampl dda o gymunedau yn cynnal cyfleusterau.
Roedd y fenter yn cael ei rhedeg gan y gymuned ers 2013 ar ôl i gyngor Blaenau Gwent drosglwyddo'r awenau iddyn nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015
