Cartrefi dal heb drydan wedi Storm Barney
- Cyhoeddwyd

Mae rhai cartrefi yn dal i fod heb bŵer yng Nghymru ar ôl i Storm Barney daro'r wlad dros nos.
Roedd 7,000 o gartrefi heb drydan nos Fawrth wrth i wyntoedd cryf daro'r gogledd.
Fe wnaeth y gwyntoedd gyrraedd 85 milltir yr awr pan oedd y storm ar ei gwaethaf dros nos.
Erbyn bore Mercher, dywedodd Scottish Power bod tua 120 o gartrefi yn dal i fod heb bŵer yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Dywedodd Western Power Distribution bod tua 30 o gartrefi yn dal i fod heb gyflenwad trydan yn Sir Benfro.

Gwyntoedd nerthol ar y prom yn Aberystwyth

Coeden wedi disgyn yn y gwynt yn Abertridwr
Yn Abertawe a Chastell-nedd cafodd toeau eu chwythu oddi ar dai, ac roedd rhaid cau ffair yng Nghaerdydd fel "mesur diogelwch".
Cafodd gwyntoedd o 85mya eu recordio yn Aberdaron, 84mya yng Nghapel Curig, 83mya yn Llyn Efyrnwy ac 80mya ym Mhenbre.
Mae Irish Ferries wedi dweud bod rhai gwasanaethau rhwng Penfro a Rosslare wedi eu heffeithio gan y tywydd garw ddydd Mercher.
Mae disgwyl mwy o law trwm a gwyntoedd cryf yn ystod y dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2015
