Llofruddiaeth hanesyddol: Chwilio coedwig ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae degau o swyddogion yr heddlu, arbenigwyr y fyddin a chŵn chwilio wedi bod yn chwilio mewn coedwig yn ardal Wrecsam fel rhan o ymchwiliad i lofruddiaeth.
Heddlu Gogledd Cymru sy'n arwain y gwaith yn Nant-y-Ffrith ger Bwlchgwyn, lle mae swyddogion yn chwilio am dystiolaeth yn ymwneud a llofruddiaeth hanesyddol.
Maen nhw'n chwilio am weddillion dyn.
Ddydd Mercher, fe wnaeth yr heddlu chwilio darn o dir yn Gobowen yn Sir Amwythig fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae swyddogion hefyd wedi bod yn chwilio safleoedd yn ardaloedd Wrecsam a Sir Amwythig dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd yr heddlu y gallai'r llofruddiaeth fod wedi digwydd o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2016
