Plant Mewn Angen: Cymru'n codi'r ffigwr uchaf erioed
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Plant Mewn Angen godi £2.55m yng Nghymru wrth i'r cyfanswm trwy'r DU gyrraedd £46.6m nos Wener.
Mae'r cyfanswm yng Nghymru £900,000 yn uwch na'r llynedd - sy'n ei wneud yn y ffigwr uchaf erioed i'r ymgyrch.
Dim ond cyfraniadau nos Wener sydd yn rhan o'r ffigwr presennol - gyda'r cyfanswm terfynol yn cael ei ddatgelu o fewn chwe mis.
Cafodd fwy na £9.2m ei wario gan elusen y BBC ar 159 o brosiectau ar draws Cymru y llynedd, wnaeth roi cymorth i 20,000 o blant difreintiedig.
'Anhygoel'
Ers yr apêl cyntaf yn 1980 mae Plant Mewn Angen wedi codi mwy na £885m i helpu plant yn y DU.
"Mae'n gyfanswm gwirioneddol anhygoel," meddai pennaeth yr elusen yng Nghymru, Jemma Wray.
"Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio'r peth. Pob blwyddyn mae pobl yn gwneud mwy a mwy i ni."