Ymchwilio i driniaeth yr heddlu o achos llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd Janet Commins, 15 oed, ei threisio a'i llofruddio ym mis Ionawr 1976
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i'r modd y deliodd Heddlu Gogledd Cymru gydag ymchwiliad i lofruddiaeth a thrais yn 1976.
Heddlu'r Gogledd drosglwyddodd y mater yn wirfoddol i'r comisiwn wedi i wybodaeth bellach ddod i'r amlwg, a arweiniodd at ailedrych ar amgylchiadau'r ymchwiliad gwreiddiol.
Roedd y wybodaeth newydd yn cysylltu dyn arall gyda thrais a llofruddiaeth Janet Commins, 15 oed o'r Fflint, ym mis Ionawr 1976.
Cafodd Stephen Hough, 57, ei gyhuddo o'r troseddau ym mis Medi y llynedd.

Stephen Hough (dde) yn cael ei arwain i'r llys ym mis Medi 2016
Mae'r IPCC yn ymchwilio er mwyn gweld a weithredodd swyddogion o Heddlu'r Gogledd yn unol â'r rheolau ar y pryd.
Y materion dan sylw yw'r modd y gwnaethon nhw ddal a holi pobl oedd yn cael eu hamau o drosedd, yn ogystal â sut y deliodd y llu gyda gwybodaeth newydd ddaeth i'r fei yn 2006.
Mae'r comisiwn wedi casglu'r dogfennau perthnasol gan y llu, ac wedi cyfarfod â theulu Ms Commins i egluro'u rôl.
Dywedodd comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams: "Bydd hwn yn ymchwiliad cymhleth, yn enwedig o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio, ond mae'n bwysig i bawb ein bod yn cynnal ymchwiliad annibynnol."
Ym mis Mehefin 1976, cafodd ddyn ei garcharu am 12 mlynedd ar ol cyfaddef i ddynladdiad Ms Commins.