'Does bosib na welwn ni hanes yn ail-adrodd ei hun?'
- Cyhoeddwyd
Edrych ymlaen at Moldofa v Cymru
Gyda thair gêm yn weddill yn y grŵp, mae Cymru yn paratoi i wynebu Moldofa yn Chișinău nos Fawrth.
Ac os am unrhyw obaith i gyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Rwsia'r flwyddyn nesa', mae'n rhaid i dîm Chris Coleman ennill y gêm hynod bwysig yma.
Yn dilyn buddugoliaeth o 1 - 0 yn erbyn Awstria nos Sadwrn, diolch i gôl gan Ben Woodburn ar ei ymddangosiad cyntaf i dîm cyntaf Cymru, mae tîm Chris Coleman yn parhau yn y trydydd safle, dau bwynt yn unig tu ôl i Weriniaeth Iwerddon sy'n ail.
Roedd Gareth Bale yn bresennol yn y gynhadledd i'r wasg, ac yn pwysleisio ei ddylanwad ar Ben Woodburn rhai blynyddoedd yn ôl i gynrychioli Cymru ar y lefel ryngwladol yn hytrach na Lloegr.
Darogan canlyniad gwell
Y tro diwethaf i Gymru ymweld â Moldofa oedd yn 1994, doedd Woodburn heb hyd yn oed gael ei eni ar y pryd.
Fe gollodd Cymru'r gêm o 3-2. Does bosibl na welwn ni hanes yn ail-adrodd ei hun heno?
Fe ddylai Cymru fod yn llawer rhy gryf. Oni bai am James Collins ac Emyr Huws mae pawb yn holliach.
Mae Joe Allen a Neil Taylor yn dychwelyd, ar ôl gwaharddiadau, ac yn bwysicach na dim, mae 'na hyder yn llifo trwy wythiennau'r chwaraewyr ar ôl y fuddugoliaeth nos Sadwrn.

Bydd Neil Taylor a Joe Allen yn dychwelyd i'r garfan yn dilyn gwaharddiadau
Doedd yr ymgyrch ragbrofol yma byth am fod yn un hawdd ar ôl Ewro 2016.
Mwyaf sydyn, Cymru oedd y prif ddetholion yn y grŵp, sy'n golygu fod y timau eraill wedi codi eu gêm pan yn chwarae yn eu herbyn.
Ond ar ôl saith gêm, mae tîm Chris Coleman yn parhau i fod yn ddiguro, ac mae'n rhaid rhoi clod iddyn nhw am hynny.
Woodburn ar y cae neu'r fainc?
Maen nhw dal yn y ras i gyrraedd Rwsia haf nesaf, ac os bydden nhw'n ennill eu tair gêm nesaf, fe ddylse hynny fod yn ddigon i'w gweld nhw'n sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle o leiaf.
Tydi hi dal ddim yn amhosibl iddyn nhw ennill y grŵp chwaith.
Ar ôl iddo sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Awstria nos Sadwrn, y cwestiwn mawr ydi, a fydd Ben Woodburn yn dechrau'r gêm? Dwi'n cael y teimlad mai ar y fainc y bydd o unwaith eto.

Ben Woodburn oedd arwr y gêm nos Sadwrn ar ôl sgorio'r unig gôl
Mi fydd Joe Allen yn sicr nôl yn y tîm, ac mae hi'n ddigon posibl y bydd Coleman yn gwneud cwpwl o newidiadau eraill hefyd.
Ond pa bynnag dîm fydd o'n ei ddewis, dwi'n hyderus y gwelwn ni Gymru yn ennill eu hail gêm yn olynol, ac yn cadw'r freuddwyd o gyrraedd Rwsia yn fyw.

Cofiwch gallwch chi ddilyn gêm Moldofa vs Cymru nos Fawrth ar wefan neu ap BBC Cymru Fyw, a bydd sylwebaeth fyw ar Camp Lawn, Radio Cymru a Sgorio Rhyngwladol ar S4C.
Mae'r gêm yn dechrau am 19:45.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2017

- Cyhoeddwyd2 Medi 2017
