Styc mewn lifft yn Moldofa
- Cyhoeddwyd

Dyma ffordd newydd o wneud ffrindiau dramor
Erioed wedi cael y teimlad yna mewn lifft, mewn gwlad ddieithr, dramor... y teimlad lle chi'n gofyn i'ch hun, "Beth os fydd y lifft yma'n mynd yn styc?"
Ychwanegwch y ffaith eich bod chi mewn gwlad anghysbell, man sydd ddim yn boblogaidd gyda thwristiaid a lle 'dyw'r pobl lleol ddim o reidrwydd yn siarad Saesneg... na Chymraeg.
Dyna ddigwyddodd i griw o ddilynwyr Cymru mewn gwesty yn Chișinău, Moldofa yn hwyr nos Lun.
Gorlwytho?
Roedd Twitter yn ferw gyda straeon gwrol o ddewrder o dan amgylchiadau anodd.
Roedd Garmon Ceiro yn un o'r trueininaid, ac mae ei ddilynwyr ar Twitter wedi arfer gyda'i sylwadau di-flewyn-ar-dafod a'i iaith gref.
Aled Elwyn Jones sydd yn crisialu'r profiad orau am orfod treulio awr a hanner gyda chriw o gyd-gefnogwyr mewn gofod bach, filltiroedd lawer o adre:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diolch byth, daeth cadarnhad bod y criw wedi dianc yn ddiogel:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'n siŵr bydd y stori'n cael ei rhannu dros y cenedlaethau am ganrifoedd!

Cofiwch gallwch chi ddilyn gêm Moldofa vs Cymru nos Fawrth ar wefan neu ap BBC Cymru Fyw, a bydd sylwebaeth fyw ar Camp Lawn, Radio Cymru a Sgorio Rhyngwladol ar S4C, dolen allanol. Mae'r gêm yn dechrau am 19:45.
Efallai o ddiddordeb...
