Marwolaeth beicwraig yn Sir y Fflint: Dau yn y llys
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Chris Boardman drydar y llun hwn a theyrnged i'w fam Carol
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dynes yn Sir y Fflint y llynedd drwy yrru'n beryglus.
Roedd hi ar ei beic pan fu mewn gwrthdrawiad â fan yng Nghei Connah.
Mae Liam Rosney, 31 oed, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Victoria Rosney, 31 oed, hefyd wedi ei chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe gafodd y ddau, sydd yn dod o Gei Connah, orchymun i ymddangos o flaen Llys Y Goron Yr Wyddgrug ar 27 Hydref.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchdro yng Nghei Connah
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2017

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2016
