Elusen cefnogwyr Cymru'n sownd ar y Môr Du
- Cyhoeddwyd

Ceir yr elusen wedi'u llwytho ar y llong yn Odessa
Mae criw o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru sydd ar daith elusennol i Georgia wedi cael eu dal ar long yn y Môr Du oherwydd tywydd drwg.
Roedd y criw o elusen Gôl! yn gyrru o Gymru i Georgia gan ddosbarthu rhoddion i blant difreintiedig ar y ffordd. Y bwriad wedyn oedd gadael y ceir yn Georgia er budd pobl leol.
Mae Gôl! yn helpu elusennau plant bob tro y mae'r tîm cenedlaethol yn chwarae oddi cartref.
Rhan bwysig o'r daith - 'Tbilisi or Tip' - oedd ar long o Odessa yn Iwcraen i Georgia, ond ar ôl bod yn sownd ar y môr am gyfnod maen nhw bellach wedi angori yn Constanta, Romania, sydd yn bellach o Georgia nag oedd Odessa.
Mae'r criw mewn perygl o fethu'r gêm rhwng Georgia a Chymru nos Wener.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y criw wedi gyrru miloedd o filltiroedd cyn cyrraedd y llong, ac roedd y daith wedi'i chynllunio fel eu bod yn cyrraedd Georgia cyn y gêm.
Roedd y cefnogwyr, sy'n dod o Gaerffili, Caerdydd a'r Hengoed, wedi cychwyn ar y daith 10 niwrnod i ddinas Kutaisi - sydd wedi ei gefeillio â Chasnewydd - yn cludo cit pêl-droed, llyfrau, dillad a rhoddion eraill, cyn cyfrannu eu ceir at achosion da yn Georgia.
Eu bwriad oedd ymweld â nifer o achosion plant eraill tra eu bod yn Kutaisi ynghyd â chartref i blant yn y brifddinas Tbilisi cyn y gêm fawr.
Fis Hydref diwethaf fe drefnodd yr elusen Gôl!, i ddau blentyn o Kutaisi ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad.

Fis hydref diwethaf fe drefnodd yr elusen Gôl!, i ddau blentyn o Kutaisi ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng y ddwy wlad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
