Llys yn gorchymyn Tomlin i weithio 80 awr yn y gymuned
- Cyhoeddwyd

Roedd Lee Tomlin yn chwarae i glwb Bristol City pan ddigwyddodd yr ymosodiad
Mae barnwr wedi gorchymyn chwaraewr canol cae Caerdydd, Lee Tomlin i gwblhau 80 awr o waith yn y gymuned yn dilyn ei ran mewn ymosodiad ar ddyn arall.
Fe wnaeth Tomlin, 28 oed gyfaddef i gyhuddiad o achosi ffrae wnaeth arwain at anafiadau difrifol i ddyn arall y tu allan i glwb nos yng Nghaerlŷr ar 22 Ionawr.
Fe benderfynodd erlynwyr yn Llys y Goron Caerlŷr i beidio â pharhau gyda chyhuddiad o glwyfo ar ôl edrych ar dystiolaeth CCTV a oedd yn dangos y dioddefwr yn ei herio.
Roedd Tomlin yn chwarae i glwb Bristol City ar y pryd, ac fe wrthododd Caerdydd wneud unrhyw sylw ar y mater pan gafodd ei gyhuddo o'r drosedd.
Roedd Tomlin a chwaraewr Accrington Stanley, Billy Kee yn cael eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ond fe orchmynnodd y barnwr i'r cyhuddiad hwnnw gael ei ollwng yn erbyn y ddau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2017
