Sut lwyddodd Megan Jones i oroesi damwain ffordd ddifrifol
- Cyhoeddwyd

Mae Megan Jones yn ddiolchgar iawn am y driniaeth gafodd hi yn y Ganolfan Drawma Arbenigol yn Stoke
'Dyw Megan Jones o ardal Trawsfynydd ddim yn cofio llawer am 2 Hydref 2012 a dim ond diolch i gyfres o gyd-ddigwyddiadau rhyfeddol y mae hi wedi llwyddo i oroesi digwyddiadau'r diwrnod hwnnw.
Hi oedd y claf cyntaf o ogledd Cymru i gael gofal yng Nghanolfan Drawma Arbenigol Stoke. Mae 'na ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn â sefydlu canolfan debyg yn y de.
Ar y pryd roedd Megan newydd ddechrau yn chweched dosbarth Ysgol y Berwyn yn y Bala ac ar ôl bod yn yr ysgol ar y dydd Mawrth yn ôl ei harfer roedd ganddi hi gyfweliad gyda'r nos ar gyfer swydd rhan amser mewn gwesty lleol. Mi gafodd hi'r swydd ond, fel y mae hi'n egluro, wnaeth hi ddim cyrraedd adref y noson honno...

Y peth dwytha' ddywedodd Mam wrtha i cyn gadael y tŷ oedd "bydd yn ofalus, mae 'na lot o ddŵr ar y ffordd".
Ro'n i newydd basio fy mhrawf gyrru ym mis Gorffennaf felly ro'n i'n gw'bod am beryglon aquaplaining o'r prawf theori. Ro'n i'n gwybod sut oedd dreifio!
Dwi ddim yn cofio unrhyw beth ar ôl gadael y gwesty. Mae pobl wedi dweud wrthai wedyn 'mod i bron â chyrraedd Ganllwyd ar yr A470 pan lithrodd y car oddi ar y ffordd a rowlio i lawr llethr serth.
Roedd gyrrwr y fan oedd tu ôl i mi ar y pryd yn dweud nad oeddwn i yn gyrru'n wirion a fod y car wedi taro dŵr cyn codi oddi ar y ffordd.

Rowliodd car Megan i lawr y llethr serth yma ger Ganllwyd
Meddwl fy mod i wedi marw
Diolch byth ro'n i'n gwisgo gwregys ond pan ddaeth y timau achub roedd y car ar ei ochr ac roedd yr injian rhyw ddeg metr i ffwrdd. Mae hynna'n dangos cymaint oedd y car wedi rowlio. Roedd 'na grac crwn yn y windscreen ble ro'n i wedi taro fy mhen.
Yn digwydd bod, roedd o'r diwrnod ar ôl i April Jones ddiflannu ac roedd 'na dîm Achub Mynydd ar eu ffordd i Fachynlleth i helpu yn y gwaith o chwilio am y ferch fach.
Nhw oedd y cynta' i stopio a sylwi bod 'na ddamwain wedi bod. Roeddan nhw yn meddwl mod i wedi marw pan 'naethon nhw fy ffeindio i. Mi 'naethon nhw lwyddo i fy nghael allan o'r car trwy'r sunroof.
Ges i fy nghludo i Ysbyty Gwynedd yn hofrennydd Sea King y llu awyr oedd yn digwydd bod yn yr ardal. Mae'n hollol wyrthiol sut ddaeth popeth at ei gilydd ar y noson yna. Ro'n i yn yr ysbyty o fewn tri chwarter awr i golli rheolaeth ar y car.

Megan yng nghwmni ei chwaer yn y Ganolfan Drawma yn Stoke
Y claf cynta'
Yn hwyrach y noson honno penderfynodd y meddygon fy anfon i'r Ganolfan Drawma Arbenigol yn Stoke. Dim ond y diwrnod cynt roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi arwyddo cytundeb i anfon cleifion o ogledd Cymru yno, felly fi oedd y cynta'.
Ro'n i mewn ward gofal dwys a do'n i'n cofio dim am tua saith wythnos. Roedd gen i anafiadau ar draws yr ymennydd i gyd, ro'n i wedi torri fy mhenglog, fy ngwddw ac roedd 'na nam ar fy llygad chwith.
Ro'n i'n sâl iawn ac yn dirywio yn gyflym. Fe ffeindiodd y meddygon bod fy mherfedd bach (small intestine) wedi ei heintio yn ddifrifol. Roedd yn rhaid cael triniaeth ond doedd y meddygon ddim yn meddwl mod i'n mynd i fyw trwyddi ac roedd fy nheulu wedi cael eu galw i ddweud ta-ta wrtha i.
'Naethon nhw dynnu dwy ran o dair o fy mherfedd bach i y noson honno.

Treuliodd Megan wyth mis a phum diwrnod yn gwella yn Stoke cyn cael dod adre' yn barhaol
Pob arbenigedd dan yr un to
Roedd yr holl arbenigedd yn yr un lle yn Stoke. Oni bai bod y ganolfan ar gael mi fyswn i wedi cael fy anfon i Ysbyty Walton yn Lerpwl.
Mae Walton yn ganolfan wych am drin anafiadau i'r pen ond roedd gen i'r broblem gyda'r perfedd hefyd. 'Falle y byswn i wedi gorfod symud oddi yno i 'sbyty arall neu byddai arbenigwyr eraill wedi cael eu galw. Ond byddai hynny wedi cymryd amser a 'falle byswn i wedi marw. Yn Stoke roedd y theatr jyst i fyny'r coridor.
Erbyn hyn dwi'n astudio i fod yn nyrs yn Southampton a galla' i werthfawrogi fwy nag erioed yr angen am ganolfan drawma sydd â phob arbenigedd mewn un ysbyty.
Oni bai am gyfres o gyd-ddigwyddiadau a bod y gofal arbenigol ar gael yn Stoke, dydw i ddim yn meddwl y byswn i'n fyw.

Mae Megan yn gobeithio treulio mwy o'i hamser yn yr ysbyty, ond fel nyrs y tro yma