'Marwolaethau diangen' heb sefydlu uned drawma yn y de
- Cyhoeddwyd

Yn ôl arbenigwr gofal brys blaenllaw, fe allai pum claf fod yn marw'n ddiangen bob mis yn y de gan nad oes system arbenigol ar gael i drin cleifion sydd ag anafiadau difrifol.
Mae'r athro David Lockey yn galw am sefydlu rhwydwaith drawma arbenigol cyn gynted â phosib.
De Cymru yw'r unig fan yng Nghymru a Lloegr sydd ddim yn rhan o rwydwaith o'r fath, ond ar ôl blynyddoedd o drafod, bydd byrddau iechyd y rhanbarth yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ddydd Llun.
Fel rhan o rwydweithiau trawma, mae grwpiau o ysbytai yn cydweithio i gydlynu gofal y rhai sydd wedi cael anafiadau allai beryglu eu bywydau.
'Gostyngiad 25% i 30%'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd yr Athro Lockey: "Ry'n ni'n edrych ar ostyngiad o 25% i 30% mewn marwolaethau (ers sefydlu rhwydweithiau trawma mawr) yn Lloegr - mae hynny tua 600 o fywydau'r flwyddyn.
"Os ydych chi'n cymharu hynny â phoblogaeth o 2.3m yn ne Cymru, rydym yn sôn am 45-60 o fywydau'r flwyddyn. Felly bob mis heb rwydwaith trawma, ry'n ni'n colli pedwar i bump o fywydau yn ddiangen."
Yn ganolbwynt i'r rhwydweithiau, mae un ysbyty mawr yn cael ei glustnodi yn ganolfan drawma arbenigol lle mae meddygon ymgynghorol ar ddyletswydd 24 awr y dydd i dderbyn y cleifion â'r anafiadau mwyaf difrifol.

Stori Megan Jones
Nôl yn 2012 cafodd Megan Jones oedd yn 17 oed ddamwain car.
Roedd ganddi nifer o anafiadau difrifol amrywiol.
Fe gafodd ei rhuthro i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei hanfon dros y ffin i Ysbyty Brenhinol Stoke - sy'n ganolfan drawma arbenigol.
Fe elwodd Megan Jones o gael gofal mewn uned debyg dros y ffin yn 2012
Hi oedd y cyntaf erioed i gael ei throsglwyddo fel hyn o ganlyniad i'r ffaith fod bwrdd iechyd y gogledd, ddiwrnod yn unig ynghynt, wedi ymuno â rhwydwaith drawma y West Midlands.
Mae'n debyg fod hynny wedi achub bywyd Megan, oherwydd bod ystod eang o arbenigwyr yn barod amdani yn Stoke.
Darllenwch stori Megan yn llawn yma .

Yn gynharach eleni fe wnaeth panel o arbenigwyr meddygol argymell mai'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd oedd y dewis gorau gan mai dyma'r unig le yng Nghymru sy'n arbenigo mewn llawdriniaethau'r ymennydd.
Roedd arbenigwyr o Ysbyty Treforys ger Abertawe wedi ceisio argyhoeddi'r panel mai'r ysbyty hwnnw oedd fwyaf addas.
Mae gan y safle ganolfan losgiadau nodedig, ac roedden nhw hefyd yn dadlau fod lleoliad yr ysbyty yn fwy canolog ar gyfer cleifion o'r dwyrain a'r gorllewin.
Ond mae'r cynigion yn argymell y bydd Treforys yn cael ei chlustnodi'n uned drawma arbenigol â rôl allweddol yn cefnogi'r prif ganolfan, fel rhan o'r rhwydwaith ehangach.

Yn gynharach eleni, dywedodd panel arbenigol eu bod yn ffafrio Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i fod yn gartref i'r uned drawma
Dywedodd cadeirydd pwyllgor iechyd y Cynulliad, Dai Lloyd, sy'n feddyg teulu yn ardal Abertawe, ei fod yn siomedig: "Da'n ni wedi cael nifer o achosion dros y blynyddoedd pan da'n ni'n ffeindio bod yna wahanol strwythurau a wahanol wasanaethau yn gadael Abertawe ac yn mynd am Gaerdydd.
"Bymtheg mlynedd yn ôl, nathon ni golli niwro-lawdriniaeth i blant yma, er taw ar y pryd, yr unig lawfeddyg oedd yn trin plant oedd yma yn Abertawe, ond gollon ni'r uned i Gaerdydd.
Abertawe ar ei cholled?
"Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gollon ni'r uned i oedolion niwro-lawdriniaeth o Abertawe i Gaerdydd.
"Mae yna'r adolygiad diweddara yma i mewn i drawma, hynny yw damweiniau difrifol hefyd yn argymell canoli'r gwasanaethau o Abertawe draw i Gaerdydd eto.
"Mae 'na hanes sydd yn dilyn fan hyn fel effaith domino."

Mae'r gwasanaethau ar gyfer cleifion ag anafiadau difrifol yn y gogledd a rhannau o'r canolbarth yn cael eu darparu trwy rwydwaith trawma Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr/Gogledd Cymru.
Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke sydd wedi ei benodi'n ganolfan trawma difrifol yr ardal.
Mae'r athro Lockey yn dadlau dylai cleifion trawma difrifol yn y de ddisgwyl darpariaeth debyg, a byddai'r rhwydwaith yn rhoi hwb i gyfraddau gwella a goroesi yn yr ardal.
Er hynny, mae'n dweud y gallai'r oedi o ran sefydlu'r ganolfan fod yn beth positif, gan fod cyfle i ddysgu gwersi o'r safleoedd sydd eisoes ar waith, a gallai De Cymru arwain y ffordd yn y maes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017

- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2017

- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017
