'Dim angen pontydd' i lygod

  • Cyhoeddwyd
PathewFfynhonnell y llun, Woodland Trust
Disgrifiad o’r llun,

Pathew

Bydd dwy bont a gafodd eu codi ger Pontypridd er mwyn helpu pathewod groesi'r ffordd ddim yn cael eu hailadeiladu ar ôl i stormydd eu difrodi.

Roedd y pontydd ymhlith tair a godwyd ar gost o £63,000 yr un dros ffordd osgoi Pentre'r Eglwys yn 2010.

Cafodd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf feirniadaeth am beidio ailgodi'r pontydd wedi stormydd Ionawr 2016.

Ond yn ôl y cyngor, mae newid yn yr ecoleg yn golygu nad oes angen pontydd newydd yn eu lle.

Daw'r penderfyniad wedi gwaith monitro gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a chyngor nad ydi'r pontydd yn angenrheidiol erbyn hyn.

Cwestiynau

Cafodd y pontydd o diwbiau rhwyll weirog, oedd yn crogi rhwng coed a pholion tal, eu gosod fel rhan o'r cynlluniau gwarchod bywyd gwyllt, yn unol ag amodau hawl cynllunio codi'r ffordd osgoi.

Ond yn ôl prif weithredwr y TaxPayers' Alliance, mae cwestiynau mawr yn codi ynghylch y penderfyniad gwreiddiol i wario £190,000 ar y pontydd.

Dywedodd John O'Connell: "Mae'n ddirgelwch sut y cafodd y cynllun yma sêl bendith yn y lle cyntaf, ac mae'n amlwg erbyn hyn bod y rhai oedd yn ei feirniadu yn gywir.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, byddai wedi bod yn amhosib sicrhau'r cyllid i wireddu'r cynllun ffordd osgoi heb godi'r pontydd.

Dywedodd: "Mae astudiaethau pellach a gwaith monitro wedi cael eu cynnal sy'n amlygu newid yn yr ecoleg ar hyd y ffordd osgoi, ac o ganlyniad does dim angen ailgodi'r ddwy bont dan sylw.

"Fodd bynnag, bydd angen mesurau lliniaru ecolegol ac mae CNC wedi cymeradwyo cynigion mewn egwyddor. Mae'r cyngor yn llunio manylion cytundeb ffurfiol."

Cafodd y ffordd osgoi ei hagor er mwyn lleihau problemau traffig ar yr A473.

Straeon perthnasol