Bachgen 'ddim ag awydd erioed i ymladd dros ISIS'
- Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Birmingham
Mae bachgen ysgol sydd wedi'i gyhuddo o gynllunio ymosodiad terfysgol yng Nghaerdydd wedi dweud wrth lys nad oedd "erioed wedi dymuno ymladd dros ISIS".
Cafodd y bachgen 17 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ei arestio ym Mehefin oriau cyn i'r canwr Justin Beiber berfformio yn y ddinas.
Mae'r llanc, sydd o gefndir gwyn Prydeinig, yn gwadu paratoi i gyflawni gweithred o derfysgaeth, a phedwar cyhuddiad arall yn ymwneud â therfysgaeth.
Roedd morthwyl, cyllell a llythyr 'merthyrdod' yn ei fag ysgol pan gafodd ei arestio yn ei gartref yn ne Cymru.
Yn Llys y Goron Birmingham dywedodd y diffynnydd iddo ddefnyddio baner y Wladwriaeth Islamaidd fel llun proffil ar ei gyfrif Instagram am ei fod "eisiau i bobl gasáu'r Wladwriaeth Islamaidd".
'Atgyfnerthu' dicter
Dywedodd ei fod wedi gwrthwynebu terfysgaeth erioed, a'i fod wedi darllen deunydd eithafol arlein wedi ymosodiadau terfysgol Llundain er mwyn "atgyfnerthu" ei ddicter at derfysgwyr.
Pan ofynnwyd iddo pam wnaeth o archwilio'r we gan holi 'sut mae trywanu rhywun a'u lladd', atebodd nad oedd bwriad ganddo i drywanu na lladd unrhyw un.
Dywedodd ei fod wedi lawrlwytho deunydd erchyll, gan gynnwys achosion o ddienyddio, oherwydd "chwilfrydedd".
Clywodd y llys ei fod hefyd wedi archwilio'r we gan ofyn 'sut mae cipio lori' oherwydd roedd eisiau gwybod pa mor hawdd fyddai'r weithred i derfysgwr.
Dywedodd: "Fedra'i ddim gyrru car heb sôn am lori."
Fideo
Ychwanegodd nad ydi o'n credu mewn Islam, yn 'nabod unrhyw un Mwslimaidd, nac yn deall ystyr y geiriau "radicaleiddio" a "merthyrdod".
Gan gyfeirio at fideo roedd o wedi ei greu ar ei ffôn yn ei ddangos gyda morthwyl, cyllell a baner y Wladwriaeth Islamaidd, dywedodd ei fod eisiau gweld sut fyddai o'n edrych mewn fideo o'r fath.
Dywedodd iddo ddileu'r fideo am ei fod yn "wael".
Gwelodd y rheithgor ddelweddau o'r fideo yn dangos y llanc yn gwneud ystum gyda'i fys.
Gwadodd y diffynnydd ei fod yn dynwared ystum mewn cylchgrawn Islamaidd.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
