Dyn yn pledio'n euog ar ôl taro merch â'i gar
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ferch ei tharo yng Nghlôs Moorhead yn Sblot nos Sadwrn
Mae dyn 28 oed wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad yn dilyn achos o daro a ffoi achosiodd anafiadau difrifol i ferch chwech oed yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Ashley Evans o ardal Sblot gyfaddef y cyhuddiadau tra'n ymddangos yn Llys Ynadon y ddinas ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng 19:30 a 20:00 nos Sadwrn yng Nghlôs Moorhead yn Sblot.
Plediodd Evans yn euog i yrru tra'i fod wedi'i wahardd, achosi anafiadau difrifol tra'n gyrru wedi'i wahardd, peidio â stopio yn dilyn gwrthdrawiad a gyrru heb yswiriant.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mai.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y ferch yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2019

- Cyhoeddwyd5 Mai 2019
