Ateb y Galw: Y Parch Kate Bottley

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedig Kate BottleyFfynhonnell y llun, Leigh Keily
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Kate Bottley

Y Parchedig Kate Bottley sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Mae'r fenyw o Swydd Efrog, ddaeth i sylw'r cyhoedd ar y rhaglen deledu Gogglebox ac sydd bellach yn cyflwyno Songs of Praise, yn ymddangos yn y gyfres ddiweddaraf o Iaith ar Daith, dolen allanol ar S4C.

Ei chyd-gyflwynydd ar Good Morning Sunday ar Radio 2, Jason Mohammad, sydd yn ei thywys ar ei siwrnai o gwmpas Cymru i ddysgu Cymraeg.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn cofio - tydw i byth yn gwybod os ydi fy atgofion cyntaf yn rhai go iawn neu yn rhywbeth dwi'n cofio o luniau dwi wedi eu gweld neu straeon dwi wedi eu clywed. Nes i ennill cystadleuaeth talent pan oeddwn i ar wyliau yn Sbaen pan o'n i'n dair oed. Y wobr oedd sombrero oedd yr un maint a mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'n siŵr mod i fod i ddweud genedigaeth fy mhlant neu noson fy mhriodas yn dydw? Ond a bod yn onest mae'n siŵr mai'r noson orau oedd unai'r un pan nes i orffen tri triathlon yn syth ar ôl ei gilydd i Sport Relief yn 2020 a phartïo tan i'r haul godi, neu y tro diwetha' i Brydain ennill Eurovision.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn ôl?

Pan aeth fy ngŵr i barti y '90au' fel Mr Blobby.

Mr Blobby
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Blobby yn gymeriad ar raglen deledu Noel's House Party yn yr 1990au

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan aeth fy ngŵr i barti y '90au' fel Mr Blobby.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dim digon tal.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae Tŷ Ddewi yn reit arbennig - cadeirlan brydferth, agos at y môr, bwyd grêt.

Nia Roberts, Y Parch Kate Bottley Jason Mohammad yng nghadeirlan Tŷ Ddewi ar gyfer ffilmio Iaith ar DaithFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Y Parch Kate Bottley ymweld â chadeirlan Tŷ Ddewi ar gyfer Iaith ar Daith gyda'i mentor ar y rhaglen, Jason Mohammad. Fe gafodd ei chyfweld yno gan Nia Roberts ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pan fydda i'n cerdded y ci, dwi'n canu yn uchel yn gyhoeddus.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae gormod i'w dewis, ond mae'r un yma ohonof i a fy nheulu ar y diwrnod ges i fy ngwneud yn Ganon Anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Southwell yn reit arbennig. Mae fy rhieni i yn oedrannus rŵan, a tydi nhw ddim yn dda, felly roedd eu cael nhw yno yn golygu popeth i mi.

Kate Bottley a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Bore 'ma.

line
line

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae hyn fel gofyn i mi ddewis rhwng fy mhlant.

Llyfr: llyfr gwisg ffansi Jane Asher.

Ffilm: Paddington 2.

Podcast: The Battersea Poltergeist.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwi ddim wir eisiau bod yn unrhywun arall am ddiwrnod, byddwn i'n teimlo'n ddrwg petawn i'n gwneud difrod i rywbeth dwi'n llogi… ond os oes rhaid i mi ddewis mae'n siŵr byddwn i'n hoffi bod yn Liza Minelli, ar lwyfan y Palace Theatre, Efrog Newydd, yn canu 'Maybe this time'. Byddai hwnna'n gwneud y tro.

Liza MinelliFfynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Liza Minnelli yn perfformio yn 1972

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Alla i falansio pedwar llwy ar fy wyneb ar yr un pryd a dwi'n gallu cael fy nwrn cyfan i mewn i fy ngheg.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy nain ar ochr fy mam. Dwi wedi cael fy enwi ar ei hol hi a bu hi farw hi pan oeddwn i'n fychan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gweddïo a bwyta (ar yr un pryd mwy na thebyg).

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw
News imageNews image