
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn fu farw yn dilyn digwyddiad mewn depo bysiau yn ardal Gilfach Goch, Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Steven John Rees, 47, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau fws yn Evanstown ar 15 Gorffennaf.
Yn y cwest ddydd Llun, cofnodwyd achos marwolaeth fel anaf i'w frest.
Roedd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) eisoes wedi dweud eu bod yn gwneud ymholiadau i'r digwyddiad ar y cyd â Heddlu De Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
