Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 18:01 GMT+1 13 Mehefin 2016
BBC Cymru Fyw
Diwrnod arall ar ben. Diolch i chi am ddilyn llif Cymru Fyw unwaith eto. Nôl bore fory!
BBC Cymru Fyw
Diwrnod arall ar ben. Diolch i chi am ddilyn llif Cymru Fyw unwaith eto. Nôl bore fory!
BBC Cymru Fyw
Beth wnaeth achosi i Nici Beech ddechrau crio am chwarter i un ar Fai 14eg?
Y cynhyrchydd teledu, bardd a'r trefnydd digwyddiadau sy'n Ateb y Galw ar wefan Cylchgrawn Cymru Fyw yr wythnos hon.

Nici Beech
BBC Cymru Fyw
Fe lwyddodd Jamie Atherton o Drawsfynydd i gael hunlun gydag arwr y bêl hirgron Shane Williams yn Stade de Bordeaux ddydd Sadwrn.
Mae Cymru Fyw yn eich gwahodd chi hefyd i anfon hunluniau o'ch hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth. Gall hynny fod allan yn Ffrainc, neu'n agosach at adref.
Ffynhonnell y llun, Jamie Atherton/Facebook
Tywydd, BBC Cymru
Rhian Haf sy'n cadw llygad ar ragolygon y tywydd y prynhawn 'ma: "A bydd na rai cawodydd a phyliau o law, ond digon o dywydd sych hefyd weddill y dydd, er yn dal yn ddigon cymylog, ond ddim mor glos a ma'i di bod, efo gwynt rhywfaint yn gryfach.
"Mi gawn ni rai cawodydd o law tarannau fory, ond hefyd 'chydig o heulwen, a neith hi droi'n sychach gyda'r nos.."
BBC Cymru Fyw
Mae cwest yn Rhuthun wedi clywed fod cyn filwr yn rhyfel y Falklands wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â cherbyd ar ffordd gyswllt yr A534 yn Wrecsam.
Daeth yr heddlu o hyd i Gary MacDonald Graham, 57 oed, ag anafiadau difrifol i'w ben a'i goes, ar ôl cael eu galw yn dilyn adroddiadau fod dyn yn cerdded ar y ffordd.
Cafodd gyrrwr lori 57 oed o Sir Gaerhirfryn ei arestio ar amheuaeth o achosi marowlaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae e wedi ei ryddhau ar fechniaeth tra bo ymholiadau'n parhau. Mae'r cwest wedi ei ohirio am y tro.
Twitter
Mae'r dyfarnwr Nigel Owens wedi anfon neges yn dweud wrth bobl am fod "yn gryf a balch" wedi'r ymosodiad ar glwb nos hoyw yn Orlando dros y penwythnos, pan gafodd 50 o bobl eu lladd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad ym Mae Colwyn yn gynharach.
Fe gafodd plismyn eu galw tua 14:50 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn ar Ffordd Penarlâg.
Aed ag e i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ac mae'r heddlu'r parhau â'u hymchwiliad yn yr ardal.
Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101, cysylltu â Taclo'r Tacle neu ffonio'n ddienw ar 0800 555 111
Twitter
Mae lluniau'r dathlu'n dal i lifo fewn o'r gêm yn Bordeaux. Be mae Osian yn weiddi tybed?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mewn araith emosiynol ar lawr Ty'r Cyffredin, mae aelod seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ei bod hi'n ddealladwy fod llawer o bobl hoyw yn poeni am eu diogelwch yn dilyn y saethu yn Orlando.
"Ry' ni'n gwybod y gallai hyn fod wedi digwydd i ni," meddai. "Ry ni'n sefyll gyda chi yn y Tŷ hwn. Rwy'n sefyll gyda chi fel dyn hoyw, ac rwy'n gwybod bod miliynau ar draws y wlad o bob ffydd a heb ffydd yn gwneud yr un fath".
Dywedodd y dylem "sefyll yn erbyn y rhai sy'n casau, y lladdwyr a'r rhai rhagfarnllyd ac ddylen ni byth anghofio Orlando, na'r rhai sydd wedi sefyll mor ddewr yn enw cydraddoldeb a chariad drwy hanes."

Heddlu Gogledd Cymru
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wales Online
Roedd un cefnogwr o Gymru wedi dathlu ychydig bach gormod - a hynny cyn y gêm yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn. Cafodd lluniau o Gareth Tansey o Sir Benfro'n cysgu'n drwm yn Stade de Bordeaux eu rhannu ar wefannau cymdeithasol.
Doedd hyd yn oed ymdrechion Shane Williams yr arwr rygbi i'w ddeffro yn ddigon, ac fe ddywedodd wrth WalesOnline fod ei fam a'i wraig ychydig yn anhapus gyda'i drwmgwsg anffodus., dolen allanol
Heddlu De Cymru
Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn ardal Pentwyn o Gaerdydd. Mae'r ddau - un yn 29 oed a'r llall yn 25 oed - yn parhau yn y ddalfa.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ym Mryn Bedw am 19:00 ddoe ac fe fu farw'r dyn gafodd ei drywanu yn y lleoliad. Dyw'r dyn ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol eto ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod *218368.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud y bydd Pencampwriaeth golff Cwpan Curtis yn cael ei chynnal yng nghlwb golff Conwy ym Mehefin 2020.
Cystadleuaeth ar gyfer menywod amatur yw hi, a dyma fydd yr eildro iddi gael ei chynnal yng Nghymru. Porthcawl oedd y lleoliad y tro diwetha, ym 1964.
Mae'r bencampwriaeth eleni newydd ddod i ben gyda buddugoliaeth i dîm Prydain ac Iwerddon dros yr UDA.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesTîm Prydain ac Iwerddon yn dathlu ar ôl ennill Cwpan Curtis.
BBC Radio Cymru
Mae Pigion yr wythnos i ddysgwyr ar wefan Radio Cymru, yn crynhoi geirfa'r rhaglenni a ddarlledwyd yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
BBC Cymru Fyw
Bydd Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, yn gofyn Cwestiwn Brys yn Nhŷ'r Cyffredin tua 15:30 y prynhawn 'ma, ar y bygythiad terfysgol a'r mesurau diogelwch ym Mhrydain yn dilyn yr ymosodiad ar glwb nos yn Orlando.
Mae'r Swyddfa Gartref yn awgrymu mai'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, fydd yn ymateb ar ran Llywodraeth Prydain er nad yw hyn wedi ei gadarnhau eto.

BBC Cymru Fyw
Bydd ffilm 'Y Llyfrgell', addasiad o nofel Fflur Dafydd yn cael ei dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yr haf yma. Bydd hi i'w gweld yng Ngŵyl Ffilm Caeredin a bydd yna ddangosiad arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn y Fenni.
Mae oriel luniau o'r ffilmio gan y ffotograffydd Iestyn Hughes ar wefan Cylchgrawn Cymru Fyw.
Ffynhonnell y llun, Iestyn HughesFfilmio golygfa o Y Llyfrgell
Tywydd, BBC Cymru
Bydd hi'n dal yn wlyb iawn mewn mannau yn y gogledd am gyfnod y prynhawn yma. Mae hi'n sychach ar Ynys Môn a Phen Llŷn erbyn hyn, er bod disgwyl cawodydd yma ac acw ar hyd y wlad weddill y dydd, cyn clirio'n raddol heno.
Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Teithio BBC Cymru
Yn Hwlffordd, Sir Benfro mae rhan o ffordd Freemans Way wedi ei chau ar ôl damwain rhwng tri cherbyd.
Yng Nghwmann, Sir Gaerfyrddin mae rhan o'r A485 wedi ei chau ar ôl damwain rhwng Cwmann a Llanybydder.
Yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin mae Heol Goffa ar gau ar ôl damwain ger yr ysgol.
BBC Radio Cymru
Cyfle i chi wrando eto ar y pwyso a'r mesur fu ar raglen Dewi Llwyd ar berfformiad Cymru ddydd Sadwrn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
South Wales Evening Post
Mae'r South Wales Evening Post yn adrodd fod dyn 40 oed wedi cael anafiadau i'w ben a'i gefn, dolen allanol yn dilyn ymosodiad yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys iddyn nhw gael eu galw tua 19:35 nos Sadwrn 11 Mehefin, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn ym Mrynmeurig, Llangynnwr.
Maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.