Crynodeb

  • Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

  • Datganiad ar Fesur Iechyd y Cyhoedd

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cymru Hanesyddol

  • Datganiad: Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cymru o Blaid Affrica

  1. Hwylwedi ei gyhoeddi 19:05 GMT 8 Tachwedd 2016

    A dyna ni am heddiw. 

    Mae'r aelodau wedi penderfynu gohirio datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Cymru o Blaid Affrica.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

    Y Senedd
  2. 'Peidio â byth anghofio'wedi ei gyhoeddi 18:38 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Carl Sargeant yn dweud "ei bod yn bwysig peidio â byth anghofio'r rhai dewr hynny a aberthodd eu bywydau i ddiogelu'r rhyddid sydd gennym heddiw."

    Mae'n ychwanegu "Eleni rydyn ni'n wedi coffáu rhai o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydyn ni'n cofio'r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn Jutland ac yn ystod Brwydr y Somme, yn enwedig yng Nghoed Mametz; roedd miloedd o ddynion milwrol o Gymru wedi gwneud yr aberth fwyaf.

    “Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned bresennol ein Lluoedd Arfog.”

    Y Cofio
  3. Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfogwedi ei gyhoeddi 18:36 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. 

    Dydd y Cofio
  4. Cynlluniau Cymru Hanesyddol ym maniffesto Llafur?wedi ei gyhoeddi 18:01 GMT 8 Tachwedd 2016

    Trydar Ceidwadwyr Cymru

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  5. Ofnau ynghylch creu corff treftadaeth newydd yn 'ddi-sail'wedi ei gyhoeddi 17:49 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Ken Skates yn dweud nad oes unrhyw sail i bryderon sydd wedi codi am gorff treftadaeth newydd, Cymru Hanesyddol.

    Mae'n ychwanegu y byddai'r corff newydd yn darparu "ffocws mwy miniog i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol."

    Dyw'r "status quo ddim yn opsiwn," meddai.

    Ken Skates
  6. Cymru Hanesyddolwedi ei gyhoeddi 17:34 GMT 8 Tachwedd 2016

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: Cymru Hanesyddol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried uno rhannau masnachol Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chorff Cadw dan faner Cymru Hanesyddol.

    Ym mis Hydref fe wnaeth pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru David Anderson rybuddio y gallai'r cynllun fod yn rhwystr i'r amgueddfa a'i fod yn poeni am effeithiolrwydd os yw'r uno'n digwydd. 

    Fe wnaeth cyn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith, hefyd ddweud ei fod yn pryderu am y cynllun.

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  7. 'Llawer o gymhlethdodau'wedi ei gyhoeddi 17:34 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Mr Sargeant yn cyfaddef bod "llawer o gymhlethdodau..." wrth gyflwyno'r polisi gofal plant yma.

  8. Y Llywodraeth yn hyderus y gall ariannu'r addewidwedi ei gyhoeddi 17:25 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Mr Sargeant yn dweud bod y llywodraeth yn hyderus y gall hi ariannu yr addewid i ymestyn gofal plant am ddim trwy Gymru erbyn 2021.

    Mae'n dweud bod y llywodraeth yn trafod gyda'r sector gofal i sicrhau bod digon o ddarpariaeth.

  9. Allai costau gynyddu?wedi ei gyhoeddi 17:09 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn galw am sicrwydd ynghylch y gyllideb ar gyfer y polisi.

    Mae yna honiadau wedi bod y gallai costau'r polisi gynyddu o £84m y flwyddyn fel yr awgrymwyd gan Lafur adeg Etholiad y Cynulliad.

  10. Pum prosiect peilotwedi ei gyhoeddi 17:00 GMT 8 Tachwedd 2016

    Bydd pum prosiect, yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant am ddim i blant 3 oed a 4 oed, yn cael eu treialu mewn lleoliadau penodol ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Sir Fflint, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent o fis Medi 2017 ymlaen. 

    Bydd Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio ar brosiect ar y cyd. Bydd ardaloedd eraill a fydd yn mabwysiadu'r cynnig yn cael eu hychwanegu wrth i'r gwaith i dreialu'r cynllun fynd rhagddo.

    Wrth siarad yn y Siambr mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud “Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi'i godi dro ar ôl tro yw cost gofal plant, a'r effaith y mae hynny'n ei gael arnyn nhw, ar eu harian, ac ar ansawdd eu bywyd."

    Gofal plantFfynhonnell y llun, PA
  11. Blog Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliadwedi ei gyhoeddi 16:52 GMT 8 Tachwedd 2016

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  12. Y Cynnig Gofal Plant i Gymruwedi ei gyhoeddi 16:50 GMT 8 Tachwedd 2016

    Nesaf datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru. 

    Mae gweinidogion yn bwriadu cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio.

    Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn rhai cynghorau o Hydref 2017.

    Gofal Plant
  13. Dim hawl gan ACau i feirniadu ynadon a barnwyr?wedi ei gyhoeddi 16:41 GMT 8 Tachwedd 2016

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  14. Band Eang Cyflym Iawn: Y camau nesafwedi ei gyhoeddi 16:27 GMT 8 Tachwedd 2016

    Nawr datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: Band Eang Cyflym Iawn: Y camau nesaf.

    Ddoe fe wnaeth hi gyhoeddi buddsoddiad o £80m mewn cynllun newydd i sicrhau bod pob cartref a busnes yng Nghymru yn gallu cael cyswllt band eang cyflym.

    Bwriad y cynllun fydd dilyn rhaglen Cyflymu Cymru gwerth £425m, sydd yn ceisio sicrhau cyswllt cyflym i 96% o adeiladau erbyn diwedd 2017.

    Mae gweinidogion yn gobeithio derbyn £20m o gymorth ariannol o'r Undeb Ewropeaidd, a chodi £37m wrth fuddsoddi eu cyfran nhw o elw BT o gwsmeriaid newydd.

    Band eangFfynhonnell y llun, Thinkstock
  15. 'Y Cynulliad wedi dod i oed'wedi ei gyhoeddi 16:27 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae'r aelod Annibynnol Dafydd Elis-Thomas yn dweud bod y "Cynulliad wedi dod i oed yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol ac ym mhob modd arall ar y mater."

    Dafydd Elis-Thomas
  16. Ymgais i 'ddychryn' barnwyrwedi ei gyhoeddi 16:20 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Mr Antoniw yn dweud wrth aelodau'r Cynulliad bod cais arweinydd UKIP Nigel Farage i gynnal gorymdaith ar yr un diwrnod ag achos Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys yn ymgais i "ddychryn" barnwyr.

    Mae Mr Farage wedi rhybuddio am brotestiadau ar y strydoedd os y bydd y penderfyniad o blaid Brexit yn cael ei anwybyddu.

    Arwydd BrexitFfynhonnell y llun, Thinkstock
  17. Defnydd o’r pŵer uchelfreiniolwedi ei gyhoeddi 15:56 GMT 8 Tachwedd 2016

    Yn ôly Cwnsler Cyffredinol mae'r dyfarniadau yn codi cwestiynau ynglŷn â’r defnydd o’r pŵer uchelfreiniol i gymryd camau a fydd yn effeithio, neu a all effeithio, ar y canlynol:

    • cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
    • pwerau Gweinidogion Cymru;
    • y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig;
    • y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig;
    • yr effaith gymdeithasol a’r effaith economaidd ar Gymru.
  18. Cwestiynau o 'bwysigrwydd mawr'wedi ei gyhoeddi 15:50 GMT 8 Tachwedd 2016

    Mae Mr Antoniw yn dweud bod y dyfarniad wedi codi cwestiynau sydd o "bwysigrwydd mawr" ynghylch y fframwaith cyfreithiol ar ddatganoli, ac mae'n cynnig "gweithredu i ymyrryd mewn unrhyw apêl gerbron y Goruchaf Lys."

    Mae'n ychwanegu bod rhai adroddiadau papurau newydd am ddyfarniad yr Uchel Lys yn "warthus ac yn sarhau enw da newyddiaduaeth."

    Mr Antoniw yw prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru a fe yw aelod Llafur Pontypridd.

    Mick Antoniw
  19. Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50wedi ei gyhoeddi 15:36 GMT 8 Tachwedd 2016

    Nesaf datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50.

    Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pŵer, dolen allanol i roi rhybudd o dan Erthygl 50 y bydd yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio uchelfraint y Goron. 

    Baneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd
  20. 'Cheap date'wedi ei gyhoeddi 15:07 GMT 8 Tachwedd 2016

    Fe gafodd y mesur gwreiddiol ei drechu ym mis Mawrth yn dilyn penderfyniad munud olaf gan Plaid Cymru i'w wrthwynebu.

    Roedd ACau Plaid Cymru yn gandryll ar ôl i'r cyn weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddisgrifio Plaid fel "cheap date" wrth gyfeirio at gytundeb blaenorol rhyngddynt a'r blaid Lafur.