Crynodeb

  • Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Cwestiynau Amserol

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19

  • Dadl gan Aelodau Unigol ar effeithiau anffurfio organau cenhedlu benywod

  • Dadl Fer: Camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr

  1. Hwylwedi ei gyhoeddi 16:51 GMT 15 Tachwedd 2017

    A dyna drafodion y Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar 21 Tachwedd.

    Senedd
  2. 'Amheus o'r ystadegau'wedi ei gyhoeddi 16:50 GMT 15 Tachwedd 2017

    Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud ei bod yn "flin gyda thôn ac yn amheus o'r ystadegau" yng nghyfraniad Mr Rowlands.

    Mae hi'n ei wahodd i ymweld â charchar er mwyn gweld dros ei hun "nad yw'r rhan fwyaf o'r carcharorion yn dod y tu hwnt i'r DU".

  3. Dadl Fer - camfanteisio ar fewnfudwyrwedi ei gyhoeddi 16:28 GMT 15 Tachwedd 2017

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru), dolen allanol ar gyfer y ddadl fer yw "camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr".

    David Rowlands
  4. Y cynnig ar FGM (anffurfio organau cenhedlu benyw) yn cael ei gymeradwyowedi ei gyhoeddi 16:27 GMT 15 Tachwedd 2017

    y bleidlais
  5. Cofnod dioddefwyrwedi ei gyhoeddi 15:58 GMT 15 Tachwedd 2017

    ACau yn edrych ar y ffilm 'A change has begun, dolen allanol', sy'n cofnodi profiadau merched o fyw gydag FGM (anffurfio organau cenhedlu benywod).

  6. Dadl gan Aelodau Unigolwedi ei gyhoeddi 15:43 GMT 15 Tachwedd 2017

    Dadl gan Aelodau Unigol.

    Mae Julie Morgan (Gogledd Caerdydd), dolen allanolAngela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro), dolen allanolDai Lloyd (Gorllewin De Cymru), dolen allanolJoyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru), dolen allanolJenny Rathbone (Canol Caerdydd), dolen allanol

    yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;

    b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;

    c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a

    d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.

  7. Cymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19wedi ei gyhoeddi 15:28 GMT 15 Tachwedd 2017

    Cafodd cyllideb £56 miliwn Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19 ei chymeradwyo.

    arian
  8. Ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur)wedi ei gyhoeddi 15:27 GMT 15 Tachwedd 2017

    Ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur).

    Yn dilyn ad-drefnu diweddar mae Ms Hutt wedi camu o'r neilltu fel Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar ôl bod yn aelod o'r cabinet ers 1999.

  9. 'A wnaeth y prif weinidog gamarwain?'wedi ei gyhoeddi 15:25 GMT 15 Tachwedd 2017

    Adam Price o Blaid Cymru yn codi pwynt o drefn ac yn gofyn i'r Llywydd a all y prif weinidog ddychwelyd i'r Siambr fel y gall e ateb a wnaeth e gamarwain y cynulliad.

    Mae'r Llywydd yn dweud nad yw cynnwys atebion gweinidogion yn fater iddi hi ac ychwanegodd bod rhai o'r atebion wedi bod yn rhy hir ac eraill wedi bod yn rhy fyr yn ystod y cyfarfod heddiw.

  10. Cwestiwn Amserol 3: Rhybudd Aston Martin am fuddsoddi yn Sain Tathanwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT 15 Tachwedd 2017

    Jane Hutt (Bro Morgannwg), dolen allanol: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os na fydd cytundeb ar Brexit?

    Alun Davies yn dweud "mae Llywodraeth Cymru yn cytuno gydag Aston Martin fod bod heb gytundeb yn fygythiad i fusnes.

    "Fodd bynnag dyw'r cwmni ddim wedi nodi bod bygythiad i'r budsoddiad yn Sain Tathan ac mae pethau yn symud ymlaen yn gyflym."

    aston
  11. Cwestiwn Amserol 2: Y prif weinidog yn ymwybodol o honiadau o fwlio?wedi ei gyhoeddi 15:12 GMT 15 Tachwedd 2017

    Andrew RT Davies (Canol De Cymru), dolen allanol: A wnaiff y prif weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud?

    Y prif weinidog yn dweud nad oedd ganddo ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedodd ddoe.

  12. Angen adolygu rhoi trwyddedauwedi ei gyhoeddi 15:12 GMT 15 Tachwedd 2017

    Simon Thomas yn gofyn a oedd y Llywodraeth mewn cysylltiad â'r sw yn ystod y cyfnod diweddar yma.

    Y gweinidog yn cadarnhau bod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda Chyngor Ceredigion yn ystod y cyfnod.

    Ychwanegodd bod nifer o faterion y dylid edrych arnynt a dywedodd bod disgwyl adroddiadau gan swyddogion cyn hir.

    Mae'n cytuno bod angen adolygu y prosesau sy'n bodoli ynglyn â rhoi trwyddedau i sw.

  13. Cwestiwn Amserol 1: Diogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borthwedi ei gyhoeddi 15:04 GMT 15 Tachwedd 2017

    Simon Thomas (Canolbarth a Gorllwein Cymru), dolen allanolyn gofyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt?

    Ddechrau'r wythnos daeth i'r amlwg bod ail lyncs o sw yng Ngheredigion wedi marw.

    Fe gafodd un gath wyllt oedd ar ffo ei difa ar gais yr awdurdod lleol ddydd Gwener diwethaf.

    lyncs
  14. Effaith cwtogi?wedi ei gyhoeddi 15:03 GMT 15 Tachwedd 2017

    Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr yn gofyn am effaith gostyngiad yn y gyllideb ar ymchwil a datblygiad yng ngofal iechyd a chymdeithasol.

    Mr Gething yn ateb "rwy'n siwr y bydd i ni ymdopi gyda rhywfaint o ostyngiad ac na fydd hynny yn cael effaith ar y gwaith ymchwil sy'n digwydd ar hyn o bryd.

    "Rwy'n siwr y bydd modd i ni ymdopi ond fe fydd rhai pethau efallai na fyddwn yn medru eu cyflawni."

  15. Faint o feddygon sydd eu hangen?wedi ei gyhoeddi 14:52 GMT 15 Tachwedd 2017

    Rhun ap Iorwerth yn dyfynnu ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru i hyfforddi a chyflogi 1,000 o feddygon newydd ac yn gofyn am asesiad Llywodraeth Cymru o'r nifer o feddygon a fydd eu hangen yn ystod y deg mlynedd nesaf. Mae'n gofyn hefyd faint o feddygon a fydd yn cael eu hyfforddi yng Nghymru.

    Vaughan Gething ddim yn rhoi nifer ac yn dweud ei fod yn "gamgymeriad edrych ar un grŵp o bobl broffesiynol yn unig".

    meddyg
  16. Cartref Bodlondeb ger Aberystwythwedi ei gyhoeddi 14:45 GMT 15 Tachwedd 2017

    Arweinydd UKIP Neil Hamilton yn honni "nad oes cynlluniau addas ar gyfer gofalu am gleifion Bodlondeb" wedi cyhoeddiad bod y cartref ym Mhenparcau yn cau.

    Huw Irranca-Davies yn ateb drwy ddweud bod "Cyngor Ceredigion, fel unrhyw gyngor arall, yn gorfod cynllunio eu darpariaeth gofal ar sail gofynion lleol".

    BodlondebFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Bodlondeb

  17. Lleihau derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau?wedi ei gyhoeddi 14:17 GMT 15 Tachwedd 2017

    Symudwn ymlaen at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

    Mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau?

    Vaughan Gething yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £15 miliwn y flwyddyn ar ei hagenda camddefnyddio sylweddau.

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething

  18. Bwlio mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 14:16 GMT 15 Tachwedd 2017

    Caroline Jones o UKIP yn galw am "ymchwiliad i fwlio staff sy'n digwydd mewn ysgolion".

    Kirsty Williams yn dweud nad yw'n gallu dioddef unrhyw fath o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru.

    Caroline Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Caroline Jones

  19. Mwy wedi gwneud cais i Rydgrawntwedi ei gyhoeddi 14:13 GMT 15 Tachwedd 2017

    Yr Ysgrifennydd Addysg yn dweud bod nifer y myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i golegau Rhydychen a Chaergrawnt wedi codi 6%.

    Mae'r nifer sydd wedi gwneud cais am gyrsiau meddygol wedi codi 2%.

    Roedd y ceisiadau fod i fewn erbyn y 15fed o Hydref.

    Coleg Iesu
  20. Cymraeg fel ail iaithwedi ei gyhoeddi 14:07 GMT 15 Tachwedd 2017

    Wrth gael ei holi gan Sian Gwenllian, Plaid Cymru ar sut mae sicrhau y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (gan gyfeirio'n benodol at ddysgu Cymraeg fel ail iaith) Eluned Morgan yn dweud y bydd hi'n gwrando ar dystiolaeth am yr hyn sy'n llwyddo.

    Mae'n ychwanegu "bod llawer i'w ddysgu am y modd yr ydym yn dysgu Saesneg fel ail iaith".

    Sian Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian Gwenllian