Da bo am y trowedi ei gyhoeddi 19:09 GMT 21 Tachwedd 2017
A dyna ddiwedd ar y Cyfarfod Llawn am heddiw.
Bydd Senedd Fyw yn ôl fory i ddod â'r diweddaraf o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Dyfodol Cadw
Dadl: Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Alun Jones and Gwenllian Grigg
A dyna ddiwedd ar y Cyfarfod Llawn am heddiw.
Bydd Senedd Fyw yn ôl fory i ddod â'r diweddaraf o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Dyna gwblhau Cyfnod 3 o Fesur Angenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Wrth gyflwyno'r grŵp olaf o welliannau, diolchodd Kirsty Williams i Darren Millar o'r Ceidwadwyr a Llyr Gruffydd o Blaid Cymru am eu cyfraniadau.
Ni chafwyd cyfraniad gan UKIP yn ystod y ddadl.
Dydy'r gwelliant gan Llyr Gruffydd, ac sy'n cael ei gefnogi gan Darren Millar ar ddarpariaeth addysg Gymraeg ddim yn cael cefnogaeth y llywodraeth.
Mae Kirsty Williams yn dadlau na fyddai'r gwelliant yn cryfhau'r mesur, gan fod gofyniad cyfreithiol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol i ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Chafodd y gwelliant ddim ei basio.
Ffynhonnell y llun, ThinkstockMae gwellianau nesaf yn ymwneud ag Asesu Darpariaeth Gymraeg. Llyr Gruffydd sy'n eu cyflwyno.
Maen nhw'n nodi'r angen i "bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn unol â rheoliadau, asesu -
(a) y graddau y mae plant a phobl ifanc yn ei ardal a fyddai’n debygol o wneud cais am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg;
(b) a oes ganddo’r capasiti i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny a nodir yn unol â pharagraff (a);
(c) y camau y mae’n ofynnol eu cymryd i ddarparu ystod a lefel y gwasanaethau a nodwyd yn unol â pharagraff (a) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer—
(a) amseru ac adolygu asesiadau;
(b) trefniadau ar gyfer cydweithio.
(3) Rhaid i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol sicrhau bod ganddo’r capasiti, erbyn dyddiad a gytunir rhyngddo a Gweinidogion Cymru, i gyflawni darpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob achos y gwneir cais am hynny.
Cafodd gwelliant 62 yn ymwneud â "Chadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983" ei basio.
Gallwch weld rhestr o'r gwelliannau yma, dolen allanol.
Bydd y Mesur yn creu un cynllun statudol, dolen allanol (y cynllun datblygu unigol (CDU)) i gymryd lle’r amrywiaeth o gynlluniau AAA ac AAD statudol ac anstatudol cyfredol sydd ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion ac addysg bellach.
Y nod yw sicrhau mwy o gysondeb a pharhad a sicrhau bod darpariaeth a hawliau'n cael eu diogelu, pa mor ddifrifol neu gymhleth bynnag yw'r anghenion.
Mae tri gwelliant gan Llyr Gruffydd ar baratoi a chynnal CDUau yn cael eu cefnogi gan y llywodraeth.

Fe gafodd nifer o welliannau gan y Llywodraeth oedd yn ymwneud â geiriad y fersiwn Gymraeg yn unig eu pasio, gan gynnwys newid ‘dyledus’ i ‘dyladwy’ ac ‘oddigerth’ i ‘ac eithrio’.
Mae modd gweld y rhestr o welliannau wedi eu didoli, dolen allanol ar y mesur.
Cafodd pob un o welliannau'r llywodraeth ar ddyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn eu pasio.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau, sy'n cael eu cynnig gan Darren Millar, am cyngor a gwybodaeth. Mae Llyr Gruffydd yn cefnogi'r rhan fwyaf ohonyn nhw.
Eglurodd yr Ysgrifennydd Addysg eu bod "unai'n amhriodol neu'n ddiangen oherwydd darpariaeth sydd eisoes yn y mesur neu oherwydd bod y llywodraeth wedi cynnig gwelliant arall ar yr un mater."
Gwrthodwyd y gwelliant cyntaf gan Darren Millar oedd yn nodi "rhaid i’r cod ac unrhyw ddiwygiadau iddo fod ar gael i blant a phobl ifanc".

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn diolch i'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar y mesur hyd yma.
"Rydyn ni mewn sefyllfa gref," medd Kirsty Williams, "ac rwy'n edrych ymlaen i barhau â'r gwaith er mwyn cyflwyno system well i'n dysgwyr mwyaf bregus, fel bod ganddyn nhw gefnogaeth i gyrraedd eu gwir botensial."

Cafodd y mesur ei lansio gan y cyn weinidog Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ym mis Rhagfyr 2016, gyda'r nod o sicrhau y byddai mwy o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael canlyniadau academaidd gwell.
Ym mis Hydref 2017, daeth y mesur dan y chwyddwydr, pan ddaeth i'r amlwg fod cost llunio'r mesur wedi cynyddu.
Dywedodd pwyllgor cyllid y Cynulliad fod angen gwella'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n mesur beth maen nhw'n ei feddwl fydd cost deddfau newydd.

Mae ACau'n trafod Cyfnod 3 y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), sydd â'r nod o ddarparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

ACau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd, dolen allanol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diolchodd Vaughan Gething am drafodaeth adeiladol ac ystyriol ar gamddefnydd sylweddau, gan nodi fod hon yn broblem gymhleth nad oes ateb hawdd iddi.
"Yn ystod fy nghyfnod i'n gweithio yn y carchar fe welais lawer o fywydau wedi eu difetha o ganlyniad i'r hyn roedden nhw wedi ei gymryd" meddai Caroline Jones o UKIP.

Mae'r cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru yn achos pryder mawr, medd Leanne Wood.
Mae'n galw am ddatganoli grymoedd o fewn y System Cyfiawnder Troseddol.
Mae Mark Isherwood yn cyflwyno gwelliannau ar ran y Ceidwadwyr, yn gresynu:
a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;
b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng; ac
c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned."
