Staff Amgueddfa Cymru i bleidleisio ynglŷn â streicio
- Cyhoeddwyd

Mae'r amgueddfa'n wedi bod yn ymgynghori gyda'u staff ac undebau ar y strwythur newydd
Bydd staff arbenigol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn pleidleisio i benderfynu a fyddan nhw'n streicio dros gynlluniau ailstrwythuro ai peidio.
Mae'r amgueddfa, sy'n cyflogi staff ar saith safle, yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion o £2.5 miliwn ac nad oes ganddynt ddewis ond ailstrwythuro.
Ond mae undeb Prospect yn bwriadu gofyn barn eu 200 o aelodau, gan honni fod eu haelodau yn cael eu targedu'n annheg.
Yn ôl rhai, gallai'r toriadau olygu fod arbenigwyr o safon ryngwladol yn cael eu colli.
Er iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau ym mis Ionawr i gael gwared ar 35 o swyddi, dyw'r amgueddfa ddim eto wedi manylu ar y cynlluniau ailstrwythuro.
Ymgynghoriad
Cadarnhaodd Gareth Howells, o undeb Prospect, y bydd cyfle i aelodau fwrw eu pleidlais tan Fai 15.
Ychwanegodd fod yr amgueddfa newydd gwblhau ymgynghoriad 90-diwrnod gydag undebau a staff ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig.
"Nod hyn yw arbed £2.5 miliwn dros y tair blynedd nesa', ond mae hefyd yn ymwneud ag ailstrwythuro, gyda 35 o swyddi arbenigol yn y fantol.
"Bydd y rhaglen yn effeithio bennaf ar 160 o swyddi yn yr adrannau curadurol, cadwraeth ac addysg, gan arwain at golli arbenigedd i Gymru ac israddio swyddi."
Dywedodd Mr Howells eu bod yn gofyn i aelodau'r amgueddfa a fyddai'n well ganddynt streicio neu gynnal math arall o brotest.
Ychwanegodd fod yr undeb yn credu nad oedd y toriadau'n cael eu rhannu'n deg, gyda rhai adrannau'n wynebu toriadau o 35% a dim toriadau i uwchreolwyr.
'Dim opsiwn arall'
Mewn datganiad, dywedodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Gyda llai o gyllid ar gael, mae Amgueddfa Cymru'n gorfod gwneud arbedion o thua £2.5 miliwn a does dim opsiwn, felly, ond adolygu strwythur y sefydliad er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg."
Dywedodd fod y sector amgueddfeydd yn newid a bod angen iddyn nhw "ailasesu" disgwyliadau ymwelwyr.
"Mae staff ac undebau llafur wedi cydweithio'n llawn gyda'r ymgynghoriad ar strwythur newydd i'r amgueddfa, gan gyfrannu'n gadarnhaol at y broses," meddai'r amgueddfa.
"Mae 'na drafodaethau gwerthfawr wedi'u cynnal dros y 90 diwrnod.
"Mae'r tîm uwch reoli wedi ystyried pob awgrym a gyflwynwyd, ac mae'r rheiny wedi ffurfio rhan o'r strwythur terfynol. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno i'r staff dros yr wythnosau nesa'.
"Rydym yn sylweddoli bod hwn wedi bod yn amser anodd i bawb, ac y bydd yr her yn parhau wrth i'r newidiadau gael eu cyflwyno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
