Gêm gyfartal rwystredig i Gymru yn erbyn Georgia
- Cyhoeddwyd

Mi oedd hi'n noson rwystredig i Gymru wrth i Georgia sicrhau pwynt haeddiannol yn yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Y Byd 2018.
Cymru ddechreuodd y gêm orau ac fe aethon nhw ar y blaen o fewn y 10 munud agoriadol, wrth i Gareth Bale benio i gefn y rhwyd o gic gornel Joe Ledley.
Mae Bale bellach wedi sgorio 25 gêl dros ei wlad, sydd dair yn brin o record Ian Rush o 28.
Ond er bod Georgia yn rhif 137 yn rhestr detholion FIFA fe lwyddon nhw i synnu pawb yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau'r ail hanner, pan ddaeth Tornike Okriashvili â nhw'n gyfartal efo peniad rhydd o chwe llath.
Ac yn wir, fe ddylsa Georgia fod wedi mynd ar y blaen ryw 10 munud yn ddiweddarach. Rhedodd Levan Mchedlidze yn glir tuag at gol Wayne Hennessey, ond heibio'r postyn aeth ei ergyd er mawr ryddhad i'r dorf.

Gôl Okriashvili oedd y gyntaf i Gymru ei hildio mewn gêm ragbrofol gartref mewn 481 o funudau
Yr ymwelwyr reolodd y meddiant am weddill y gêm, a gyda 10 munud yn weddill, bu bron iddyn nhw fynd ar y blaen. Ergydiodd Valeri Kazaishvili o 25 llath ond daeth y trawst i achub Cymru.
Yn dilyn y gêm, dywedodd Chris Coleman fod y tîm wedi eu cosbi am 'fod yn rhy gyfforddus' yn dilyn gôl Gareth Bale.
Mae Cymru bellach wedi cymryd pum pwynt o'u tair gêm agoriadol yn y grŵp, gyda Serbia yn ymweld â Chaerdydd yn y gêm nesaf ar 12 Tachwedd.