Cwmni cig yn nwylo'r derbynwyr
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog Farmbox, Dafydd Raw-Rees, a dau ddyn arall ar fechnïaeth yr heddlu o hyd
Mae cwmni o Geredigion oedd yng nghanol ymchwiliad i'r sgandal cig ceffyl wedi mynd i ddwylo'r derbynwyr.
Cafodd cwmni Leonard Curtis Recovery eu penodi'n derbynwyr ar Fehefin 6.
Ym mis Ebrill bu'n rhaid atal y gwaith yn Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth am yr eildro wedi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddweud bod problem hylendid yno.
Dywedodd cyfreithiwr y cwmni ar y pryd nad oedd sail i'r honiad ac fe ddechreuodd y cwmni ar y broses o apelio yn erbyn y penderfyniad.
Trwydded
Cafodd y gwaith yno ei atal am y tro cyntaf ym mis Chwefror. Roedd gan y cwmni drwydded i dynnu esgyrn cig eidion a chig ceffyl.
Mae perchennog y cwmni, Dafydd Raw Rees, a dau ddyn arall yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu wedi iddyn nhw gael eu harestio a'u holi ar amheuaeth o droseddau twyllo.
Fe gafodd Farmbox ganiatâd amodol i ail-ddechrau gweithio ym mis Mawrth ond penderfynodd yr asiantaeth beidio ag estyn y caniatâd amodol yna.
Ar Fawrth 18 fe gafwyd caniatâd i ail-ddechrau wedi i'r cwmni ddarparu sicrwydd y byddai'n cydymffurfio â rheolau sy'n ymwneud â busnesau bwyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013