Ymgyrch Pallial: Dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad rhyw fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Fedi.
Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â chartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Cafodd y dyn 62 oed ei arestio yng Nghaerlŷr mewn cysylltiad â honiadau o ymosodiadau ar dri bachgen rhwng 12 a 14 oed rhwng 1969 a 1984.
Fe yw'r ail ddyn i gael ei arestio yn Ymgyrch Pallial, yr ymchwiliad annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2012 i ystyried yr honiadau o gam-drin.
140 o honiadau
Y llall oedd dyn o Suffolk a arestiwyd ar Ebrill 23 ac sydd ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae ditectifs Ymgyrch Pallial yn ymchwilio i 140 o honiadau yn ymwneud â 18 o gartrefi gofal rhwng 1963 a 1992.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
