Cwmni'n rhoi'r gorau i hedfan rhwng Caerdydd a Glasgow
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni awyrennau yn rhoi'r gorau i'w gwasanaeth rhwng Maes Awyr Caerdydd a Glasgow, a hynny dim ond naw mis ar ôl ail-ddechrau'r gwasanaeth hwnnw.
Mae CityJet, sy'n hedfan tair gwaith y dydd i Glasgow, wedi dweud y bydd y gwasanaeth yn dod i ben o 25 Hydref, ond bydd eu gwasanaethau i Baris a Chaeredin yn parhau.
Dywedodd y cwmni bod hyn yn "rhan o'r broses ar gyfer cwmni awyrennau" a bod Maes Awyr Caerdydd yn parhau yn "rhan allweddol" o'u strategaeth ar gyfer twf rhanbarthol yn y DU.
Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn ym mis Mawrth 2013.
Flwyddyn yn ddiweddarach, cafwyd adroddiadau bod nifer y teithwyr oedd yn defnyddio'r maes awyr wedi cynyddu 9% ers iddo gael ei brynu gan y llywodraeth.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae'r newyddion hwn yn peri pryder oherwydd dim ond naw mis yn ôl y cafodd y gwasanaeth ei ailddechrau."
Yn ôl Debra Barber - ddechreuodd ar ei swydd newydd fel rheolwr gyfarwyddwr y maes awyr ym mis Awst - maen nhw'n gweithio'n agos gyda CityJet ac mae eu teithiau i Baris a Chaeredin yn "gwneud yn well na'r disgwyl" yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Dywedodd: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y busnes yn dychwelyd i, a gwella ar, y llwyddiant mae wedi'i brofi yn y gorffennol, gan wneud hynny drwy drafod y teithiau sy'n cael eu cynnig gan y cwmniau awyrennau sy'n gweithredu yma ar hyn o bryd a chwmniau newydd posibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2014

- Cyhoeddwyd15 Mai 2014

- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd24 Mai 2013

- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
