Tri chynnig i Gymro wrth weld morfil anferthol am yr eildro yn nyfroedd Penfro

MorfilFfynhonnell y llun, Rhys Morgan
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r fideo-graffydd morol, Rhys Morgan, wedi gweld ail famal mwyaf y byd ddwywaith oddi ar arfordir Sir Benfro.

Y morfil asgellog llwyd (fin whale) yw'r anifail byw mwyaf ar ôl y morfil glas, ac mae'r rhywogaeth mewn perygl. Maent yn gallu mesur hyd at 24m o hyd, a phwyso hyd at 70 tunnell.

Ar 20 Hydref, fe sgwrsiodd Rhys â BBC Cymru ar ôl gweld tri morfil asgellog llwyd yn bwydo "drwy lwc llwyr" pan oedd yn pysgota gyda ffrind.

Er gwaethaf tywydd tymhestlog Storm Boelo, fe ddychwelodd Rhys i ddyfroedd Penfro yn ystod dyddiau olaf mis Hydref gan weld y morfilod eto, yn amlyncu galwyni o ddŵr a physgod bach tra'n nofio ymysg y dolffiniaid.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Es i yn ôl i'r un ardal a chwilio am adar sy'n bwydo.

"Y ddau bust-up cyntaf welon ni oedd dolffiniaid, yna fe ddaethon ni'n lwcus y trydydd tro a gweld y morfilod.

"Mae yna siawns go dda mai dyma'r union dri morfil wnes i weld y tro cyntaf - roedden nhw'n yr un ardal."

Rhys MorganFfynhonnell y llun, Rhys Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Morgan

Roedd gweld y fath ryfeddod â'i lygaid ei hun am yr eildro'n brofiad "tu hwnt o gyffrous", yn ôl Rhys.

Ychwanegodd: "Dwi byth yn diflasu ar weld bywyd gwyllt allan yn y môr. Roedd hi'n fwy gwyntog nag yr hoffwn i y tro hwn, ac roedd cael deunydd ffilm da o gwch oedd yn symud yn y tonnau gwyllt yn fwy o her.

"Mae'r ardal y gallai morfilod fod ynddi mor enfawr, felly mae angen tipyn o lwc i ddod o hyd iddynt.

"Rydw i a chriwiau cychod lleol eraill yn cadw mewn cysylltiad ac yn rhannu gwybodaeth am yr hyn rydym wedi'i weld – mae hynny'n help mawr.

"Mae'n rhaid i ni ddefnyddio radio i gadw mewn cysylltiad allan yna gan nad oes signal ffôn - dwi wrth fy modd â hynny - mae'n bosib datgysylltu'n llwyr oddi wrth y byd am y diwrnod."

morfilFfynhonnell y llun, Rhys Morgan

Pam cynefino oddi ar arfordir Sir Benfro?

Mae'r morfil asgellog llwyd yn cynefino'n holl brif foroedd y byd ond dyfroedd oerach yw ei hoff gynefin.

Â'r haig o dri a welodd Rhys wedi aros yn nyfroedd Penfro drwy'r tywydd tymhestlog diweddar, ydyn nhw'n debygol o aros yno dros fisoedd y gaeaf?

"Mae'n anodd dweud, ond rydw i wedi gweld morfilod asgellog rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd o'r blaen," eglurodd.

morfil
Ffynhonnell y llun, Rhys Morgan

"Mae'n edrych fel bod digon o bysgod o gwmpas, felly cyn belled â bod bwyd ar gael iddyn nhw, dwi ddim yn gweld pam na fydden nhw'n aros.

"Unwaith y bydd y dyfroedd yn oeri a llai o weithgaredd, dwi'n credu y bydden nhw'n symud ymlaen, yn union fel y mae'r tiwna a'r siarcod yn ei wneud," eglurodd Rhys.

Bywyd ar y môr

Fel un sy'n byw ym mhentref Houghton yn ne Sir Benfro a theulu ei dad yn dod o Langwm ar lan Afon Cleddau, mae'r môr wedi denu Rhys erioed.

"Roedd Llangwm yn bentref pysgota mawr ar un adeg, a dyna sut y dechreuais ymddiddori mewn cychod," meddai.

"Dwi wedi fy magu o amgylch cychod ers pan oeddwn i'n blentyn bach, ac wrth i mi dyfu'n hŷn, mae'r cychod wedi mynd yn fwy, ac mae'r teithiau wedi mynd yn rhai pellach - teithiau pysgota ydyn nhw fel arfer."

Ac yntau'n gweithio mewn purfa olew wrth ei waith bob dydd, mae hefyd yn mwynhau cadw hen draddodiad ei gyn-deidiau'n fyw yn ei amser hamdden drwy bysgota â rhwyd.

"Mae gen i hefyd gwch pysgota compass net trwyddedig," eglurodd.

"Er bod y pysgota i fyny'r afon yn wael iawn y dyddiau hyn, mae'n braf cadw traddodiadau'n fyw, gan fod fy nheulu wedi gwneud hynny ers sawl cenhedlaeth."

Mae Rhys yn ei elfen ar y môr Ffynhonnell y llun, Rhys Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys yn ei elfen ar y môr

Lle dechreuodd y diddordeb mewn dogfennu bywyd gwyllt pan fydd Rhys allan ar y môr?

"Mae gen i ffrindiau sy'n hoffi tynnu lluniau a fideos o fywyd gwyllt ac ar ôl benthyg drôn a chymryd rhywfaint o ffilm y llynedd, roeddwn i wedi gwirioni, ac felly prynais un fy hun yn gynharach eleni.

"Wnaethon nhw hefyd fy nghyflwyno i snorclo gyda siarcod oddi ar arfordir Penfro ac mae hynny'n ffordd wych i gael deunydd fideo da tra'n parhau i barchu bywyd gwyllt a chadw pellter."

morfilFfynhonnell y llun, Rhys Morgan

Â'r dyddiau'n byrhau, a'r tymor yn troi, mae Rhys yn gobeithio y bydd y tywydd yn parhau'n ffafriol er mwyn bod ar y môr unwaith eto.

Meddai: "Mae'r tywydd fel arfer yn ein cyfyngu yn y gaeaf, felly dyw hi ddim yn bosib mynd yn aml ond pwy a ŵyr beth allen i ei ddarganfod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.