Chwilio am gadair goll Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882

Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882
- Cyhoeddwyd
Tybed os ydy cadair Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 yn eich cartref chi?
Mae Amgueddfa Dinbych yn chwilio am wybodaeth am gadair wag yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn y dref y flwyddyn honno.
Doedd dim teilyngdod, gan nad oedd iaith yr un o'r saith awdl a ddaeth i law'n cyrraedd safon uchel y beirniaid - gan gynnwys yr Archdderwydd Hwfa Môn.
Does dim gwybodaeth am ble mae'r gadair hyn o bryd, ond mae'n bosib ei bod hi'n dal i fod yn Sir Ddinbych, yn ôl bwrdd yr amgueddfa.
Dywedodd Medwyn Jones, is-gadeirydd a chyfarwyddwr Amgueddfa Dinbych: "Byddem wrth ein bodd yn gallu dod o hyd iddi a threfnu i dynnu lluniau o'r darn hwn o dreftadaeth Gymreig."

Mae Medwyn Jones, Clwyd Wynne a Dafydd Lloyd Jones o Amgueddfa Dinbych eisiau dod o hyd i 'gadair goll' Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882
Sylwi bod cadair wag prifwyl 1882 ar goll
Daeth Medwyn i sylweddoli bod cadair Eisteddfod Genedlaethol 1882 ar goll wrth edrych ar luniau a dynnwyd o Ddinbych y flwyddyn honno.
Eglurodd: "Rai blynyddoedd yn ôl pan o'n i'n glerc y dref ddaeth yna ddyn o Ruthun i mewn efo albwm o luniau wedi eu tynnu yn 1882 – lluniau doedden ni erioed wedi eu gweld o'r blaen.

Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882. Un o gasgliad o luniau Warner – y ffotograffydd o Fryste a ddaeth i ddogfennu prifwyl Dinbych y flwyddyn honno
"Yna ddaru ni sylweddoli wrth fynd drwy archif y papurau Cymraeg arlein bod Maer Dinbych ar y pryd wedi comisiynu ffotograffydd o Fryste o'r enw Warner i dynnu lluniau ar gyfer Eisteddfod 1882.
"Mi dynnodd lot fawr o luniau o Ddinbych doedden ni erioed wedi eu gweld o'r blaen gan gynnwys nhw'n adeiladu safle'r pafiliwn tu allan i'r castell," meddai Medwyn.

Tu mewn Y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882. Un o gasgliad o luniau Warner - y ffotograffydd o Fryste a ddaeth i ddogfennu prifwyl Dinbych y flwyddyn honno
Mae cynnal yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych yn hen draddodiad. Cynhaliwyd hi yno yn 1860, 1882, 1939, 2001 ac yn 2013.
Wrth edrych drwy gasgliad o luniau Warner ymhellach daeth i'r amlwg nad oedd llun o gadair Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882, ond na chadeiriwyd neb chwaith.
Eglurodd Medwyn: "Ddaru ni feddwl wedyn beth sydd wedi digwydd i gadair 1882.
"Dwi ddim yn gwybod beth oeddan nhw'n 'neud efo cadeiriau na chafodd eu hennill yr adeg honno.
"Be' mae o'n ddweud yn y papur newydd ydy fod y gadair wedi cael ei rhoi yn ôl i'r pwyllgor lleol ynghyd â 21 ceiniog y wobr."

Cylch Yr Orsedd yn 1882 yn denu tyrfa dda. Un o gasgliad o luniau Warner - y ffotograffydd o Fryste a ddaeth i ddogfennu prifwyl Dinbych y flwyddyn honno
Dim teilyngdod ar ôl beirniadaeth hallt
Ond pam atal y brif wobr y flwyddyn honno?
Fe dyrchodd Medwyn ymhellach a dod ar draws beirniadaeth hallt y beirniaid.

Tyrfa o gwmpas Cylch Yr Orsedd yn Eisteddfod Dinbych, 1882
Hwfa Môn oedd yr Archdderwydd ar y pryd ac roedd hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth y gadair gyda Dewi Wyn o Essyllt ac Elis Wyn o Wyrfai.
"Oedd yna saith wedi trio a'r pwnc oedd 'Dyn'," meddai Medwyn.
"Oedd un yn well na'r lleill ond fe ddywedodd Hwfa Môn nad oedd y tri'n hapus i roi'r gadair oherwydd diffyg iaith, cystrawen, a nifer o bethau eraill.
"Oedd yna un bach gwell na'r lleill o dan y ffugenw Andronicus ond fel mae Hwfa Môn yn dweud – doeddan nhw ddim yn meddwl ei bod hi'n deilwng o ennill y gadair."
![Cerdyn post - cartŵn o Hwfa Môn, yr Archdderwydd, dyddiedig 10 Medi 1904 [delwedd 1 o 2]](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/727/cpsprodpb/0a71/live/7c883db0-d3b9-11f1-8c27-87a7c72809db.jpg)
Cerdyn post - cartŵn o Hwfa Môn, yr Archdderwydd, sy'n dyddio i 10 Medi 1904
Hanes anlwcus Dinbych mewn teilyngdod
Er y siom fawr i'r gynulleidfa a oedd ym Mhafiliwn 1882, mae gan Eisteddfodau Dinbych hanes anlwcus mewn teilyngdod.
"Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yma wedyn yn 1939 ddaru neb ennill y gadair yn fan'no chwaith.
"Yn 2001 fe gafodd y gadair ei hennill gan Mererid Hopwood - y ferch gyntaf i ennill y gadair, a wedyn yn 2013 ddaru neb ennill y gadair eto."
Lle mae cadeiriau gwag Eisteddfod Genedlaethol 1939 a 2013?
"Mae cadair 1939 yn siambr y cyngor yn y dref yma, ac mae cadair 2013 yn Llyfrgell Dinbych."

Bu siom yn seremoni'r cadeirio ym Mhafiliwn binc prifwyl Dinbych yn 2013 hefyd
Gobaith Medwyn yw fod cadair 1882 yn parhau i fod yn yr ardal:
"Faswn i'n licio meddwl ei bod hi dal yn yr ardal. Be 'naeth y pwyllgor efo hi yn 1882, dyna sydd ychydig bach o ddryswch.
"Dwi wedi bod yn sbio drwy bapurau'r cyfnod a does yna ddim byd i'w ddweud oni bai fod y gadair yn mynd yn ôl i'r pwyllgor."
Sir Ddinbych yn cadeirio'r ferch gyntaf a sefydlu'r Eisteddfod 'fodern'
 Sir Ddinbych yn gallu hawlio cadeirio'r ferch gyntaf mewn hanes yn 2001, mae gan Ddinbych berthynas lewyrchus â'r Eisteddfod hefyd, er ei hanlwc.

Mererid Hopwood yn cael ei chadeirio yn Ninbych yn 2001 gan wneud hanes fel y ferch gyntaf i ennill y gadair
Eglurodd Medwyn: "Oedd y 'Steddfod yn Ninbych yn 1860 hefyd ac yn fan'no y sefydlwyd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn y lle cyntaf.
"Mae hynny mewn rhyw ffordd wedi sefydlu'r dyfodol.
"Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol o dan y drefn newydd yn Aberdâr yn 1961 a 'dan ni'n falch fod Dinbych wedi bod yn rhan fach o ddiwylliant Cymreig drwy sefydlu'r Eisteddfod fel ag y mae hi heddiw.
"Wedyn yr Archdderwydd swyddogol cyntaf oedd Clwydfardd, sef David Griffith – hogyn o'r dref yma."
Ydych chi'n gwybod lle mae cadair goll 1882?
Mae Medwyn yn annog unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am gadair goll Eisteddfod Genedlaethol 1882 i gysylltu ag Amgueddfa Dinbych.
Meddai: "Os oes yna rywun allan yna'n gwybod lle mae'r gadair a ddim isio hi, yna 'dan ni'n hapus iawn i'w chymryd hi.
"Ond be 'dan ni isio ydi cael ei gweld hi ac o leiaf tynnu ei llun hi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2025
