'Does neb yn rhy ifanc i gael mamogram' - menyw a gafodd ganser yn 38 oed

Marie Tilley
- Cyhoeddwyd
"Rwyt ti'n rhy ifanc a'n rhy heini i fod â chanser y fron."
Dyma eiriau'r meddyg ar ôl i Marie Tilley ddarganfod lwmp yn ei bron yn 2017, a hithau'n 38 oed.
Am flwyddyn mi fuodd Marie yn mynd nôl a 'mlaen i weld doctor ynglyn â'r lwmp gan ymbil am ymchwiliad pellach, ond oherwydd ei hoedran a'i ffitrwydd cafodd ei gwrthod bob tro.
Yn y diwedd eisteddodd yn stafell y meddyg a gwrthod symud nes iddi gael ei chyfeirio am mamogram.
Newidiodd byd yr hyfforddwr ffitrwydd o Arberth pan ddaeth y canlyniad oedd yn cadarnhau fod ganddi ganser y fron.
Brwydro am ddiagnosis
Meddai: "Am flwyddyn gyfan, y neges gan y doctor oedd mod i'n rhy ifanc, yn rhy ffit ac yn rhy iach i gael canser y fron.
"Y trydydd tro, ym mis Hydref, eisteddais o flaen y doctor a dechrau crio a dweud, 'Dwi ddim yn mynd nôl adre fel hyn. Dwi'n teimlo'n waeth a dwi'n gwybod bod lwmp yno, a dwi eisiau mamogram.'
"Yn y diwedd cefais y mamogram, a'r peth nesaf ro'n i'n gorwedd ar wely ac mi oedden nhw'n cymryd pum biopsi o'm bron chwith.
"O'n i yn ifanc, ond does neb byth yn rhy ifanc i gael mamogram os oes symptomau yna. Dyna'r wers dwi eisiau i bawb gymryd o'm mhrofiad i."

Cafodd Marie gemotherapi cyn llawdriniaeth mastectomi
Mae achosion o ganser y fron ymysg menywod yn iau na 40 oed yn brin iawn, gyda tua 96% o'r rheiny sy'n cael diagnosis dros 40.
Er hynny, yn ôl elusen canser CoppaFeel!, mae tua 2,500 o fenywod ym Mhrydain dan 40 oed yn cael y diagnosis bob blwyddyn.
Roedd y profion yn dangos fod gan Marie ganser y fron cam dau a'i fod wedi profi'n bositif i ganser y fron HER2, sef math o enyn sy'n gysylltiedig â hormonau.
Roedd y ffaith fod y canlyniad HER2 yn bositif yn golygu y byddai angen cemotherapi yn gyntaf cyn cael llawdriniaeth i dynnu'r fron.
"Rhoddodd hynny fwy o amser i fi weld seicolegydd ac hefyd i ymladd am y triniaeth o'n i eisiau, oherwydd o'n i eisiau tynnu'r ddwy fron.
"Os oes gen i ganser y fron, dwi ddim eisiau byw gyda'r risg o dynnu un fron yn unig."

Marie a'i meibion Theo a Marley, oedd yn wyth a 10 pan gafodd y diagnosis
Cyn y llawdriniaeth roedd chwe sesiwn o gemotherapi bob tair wythnos, esboniai: "Roedd lot o sgil-effeithiau gyda'r cemotherapi, ac roedd rhaid iddyn nhw leihau'r dos bob tro bron.
"Mae cemotherapi'n anodd iawn ac yn gwneud i chi deimlo'n sâl ofnadwy.
"Wedyn ces i fastectomi dwbl ym mis Mai 2019.
"Mae cael y ddwy fron wedi'u tynnu yn beth anodd iawn i ddod i delerau ag e. Ry'ch chi'n teimlo'n llai benywaidd weithiau.
"Ond dwi'n adnabod lot o bobl sydd wedi cael un fron wedi'i thynnu, ac wedyn mae'r canser wedi dod yn ôl yn yr un arall."

Marie a'i theulu: "Roedd cefnogaeth fy nheulu yn anhygoel"
Gyda Marie yn fam sengl i'w meibion Theo a Marley, oedd yn wyth ac yn 10 oed ar y pryd, roedd eu cefnogi nhw drwy'r siwrne yn hynod bwysig iddi: "Yn ystod y cyfnod o'n i'n mynd drwy'r holl beth, o'n i'n deffro yng nghanol y nos yn meddwl 'mod i am farw.
"Mae gymaint o bethau'n mynd drwy'ch pen ar adeg fel 'na. Ac roedd hi'n agosáu at y Nadolig hefyd a dwi ddim yn gwybod faint o anrhegion brynais i iddyn nhw.
"O'n i'n ymddwyn fel petai'n fy Nadolig olaf i, a dweud y gwir."

Marie yn codi arian i'w helusen Marie's Mission, sy'n cefnogi pobl â chanser y fron ac wedi codi bron i £40,000
Mae Marie wedi byw heb ganser ers y driniaeth gan gymryd y cyffur Tamoxifen bob bore.
Mae bywyd wedi newid iddi, ac mae erbyn hyn yn farbwr yn Arberth ac wedi cychwyn grŵp cefnogi yno sydd â rhyw 30 o aelodau, ac hefyd yn trefnu digwyddiadau rheolaidd i godi arian ac i gefnogi pobl lleol â chanser.
Mae'r digwyddiad yn 2027 hefyd yn cefnogi dynion gyda chanser y fron gan nad oes lawer o ymwybyddiaeth o'u profiad nhw.

Mae Marie wedi codi degau o filoedd i elusen
Ers ei salwch mae Marie wedi cynrychioli Cymru gyda'r tîm pêl-droed cerdded dros 40 oed, a thîm pêl-droed stryd Cymru, ac wedi chwarae yng Nghwpan y Byd yn y ddau gategori. Mae hefyd wedi bod yn rhan o sioe ffasiwn Breast Cancer Now yn Llundain.
Meddai am ei phrofiad a'r effaith arni fel person: "Canser yw e ar ddiwedd y dydd a dwi'n meddwl y dylai pawb gael eu trin fel claf canser.
"Dwi'n meddwl bod y profiad wedi 'ngwneud i'n gryfach ac mae gen i lawer mwy o hunan-hyder erbyn hyn.
"Beth bynnag sy'n cael ei daflu ata i, dwi'n teimlo 'mod i'n gallu delio ag e. A dwi wastad wedi mwynhau helpu pobl a chodi ymwybyddiaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd18 Hydref
