Marathon Eryri: Y gwirfoddolwyr sy'n bwydo rhedwyr mewn gwisg ffansi

Siân (dde) gyda Sarah a Dafydd ar orsaf fwydo Tafarn 24
- Cyhoeddwyd
I redwyr Marathon Eryri mae bwydlen sy'n cynnwys dŵr, cacen, siocled-poeth a dôs go dda o electrolytes wedi eu gweini gan griw sy'n dawnsio mewn gwisg ffansi yr union hwb sydd ei angen i gyrraedd y llinell derfyn.
Dyna ganfyddiad Siân a Dafydd Roberts sy'n rhedeg gorsaf fwydo dan yr enw 'Tafarn 24' ar ddiwrnod y marathon ers bron i ddegawd.
Mae Tafarn 24 wedi ei gosod yn nhopiau Waunfawr ac mae'n cael ei alw'n hynny gan ei bod ar 24ain filltir y cwrs, cyn i'r rhedwyr barhau â'u dwy filltir olaf at y llinell derfyn yn Llanberis.
"Os ydan ni'n cael hwyl, yna mae'r rhedwyr yn cael hwyl," eglurodd Siân ar drothwy Marathon Eryri a oedd fod i'w chynnal ddydd Sadwrn.
Yn sgil y tywydd gwael mae'r ras wedi cael ei chanslo.

Te parti Mad Hatter oedd thema'r wisg ffansi un flwyddyn
Ddydd Sadwrn 24 Hydref, roedd disgwyl i 3000 o redwyr redeg 26.2 milltir o amgylch llethrau'r Wyddfa wrth gwblhau Marathon Eryri tra'n codi bron i filiwn o bunnoedd at elusennau.
Yn ôl Siân, mae'r 12 gorsaf fwydo ar gwrs Marathon Eryri sy'n cynnig bwyd, diod, cymorth a hwb i'r rhedwyr "yn allweddol" er mwyn cynnig "y profiad gorau un ac ychydig o hwyl hefyd".
'Mae Tafarn 24 yn eiconig erbyn hyn'
Cyn y cyhoeddiad bod y ras wedi ei chanslo dywedodd: "Dwi wedi cychwyn y gwaith paratoi a choginio'n barod - brownies, flapjacks, bara brith, cacan gri, brechdanau jam, brechdanau marmite - love itor hate it," dywedodd Siân wrth baratoi at ddydd Sadwrn.
"Fydd na ffrwythau, electrolytes, te, coffi, siocled poeth, digon o ddŵr, custard creams - sydd o hyd yn mynd i lawr yn ofnadwy o dda.
"Mae angen digon o siwgr i gael pobl i'r ddwy filltir olaf."
Cynhaliwyd y ras gyntaf yn 1982 ac ers hynny mae cwrs heriol Marathon Eryri wedi denu rhedwyr o bedwar ban byd - heblaw am fwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig.

Hula a Hawaii oedd y thema un flwyddyn, ac fe wnaeth cŵn chwilio ac achub SARDA ymuno yn yr hwyl
Yn ogystal â chynnig hwyl i godi calon y rhedwyr sydd bron â gorffen y ras, mae Tafarn 24 yn codi arian at Gymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub Cymru (SARDA).
"Be' sy'n wych am Marathon Eryri ydi bod pob feeding station yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n hel arian at wahanol elusennau," eglurodd Siân.
"Mae Marathon Eryri wedyn yn rhoi cyfraniad at SARDA gan ein bod ni'n rhedeg y feeding station iddyn nhw. Maen nhw'n cefnogi amryw o elusennau."
Yn ôl Siân mae'r ymateb gan y rhedwyr yn werth yr holl ymdrech i wisgo i fyny dan thema wahanol bob blwyddyn - o wisgoedd Hula, i wisgoedd Calan Gaeaf neu fôr-ladron.
"Mae'r ymateb gan y rhedwyr yn anhygoel - a phawb isio tynnu ei lun a'i rannu ar social media.
"Mae Tafarn 24 wedi mynd yn eiconig erbyn hyn yn byd Marathon Eryri a'r byd marathons ar draws y byd i ddweud y gwir - mae pobl yn gwybod amdanon ni."

Cafodd Marathon Eryri ei gynnal ar Calan Gaeaf un flwyddyn felly roedd thema amlwg y flwyddyn honno
Rhedwyr wedi wynebu her galed erbyn cyrraedd Tafarn 24
I allu rhedeg Marathon Eryri mae angen cryfder corfforol a meddyliol.
Y disgwyl oedd y byddai'r rhedwyr yn cychwyn o Lanberis, yn dringo i Fwlch Llanberis (1.100tr), disgyn i gyffordd Pen-Y-Gwryd cyn rhedeg ar draciau fferm a'r brif ffordd i Feddgelert (200tr).
Yna byddent yn parhau ar hyd yr A4085 i'r Waunfawr cyn dringfa heriol a chyflym ar lwybrau mynyddig i tua 1,200 troedfedd ym Mwlch-y-Groes cyn cyrraedd Tafarn 24.

Mae Tafarn 24 mewn lleoliad mynyddig a garw ar lethrau Moel Eilio - rhwng Waunfawr a Llanberis
Gall yr amodau fod yn heriol iawn erbyn cyrraedd Tafarn 24, yn enwedig a hithau'n fis Hydref:
"Maen nhw'n ein cyrraedd ni efo dwy filltir i fynd - mae'r rhan fwyaf i lawr allt wedyn, ond lawr allt calad - mae'n ryff, mae'n dechnegol ac mae'r coesau wedi mynd erbyn hynny hefyd.
"Mae o hyd eitha oer yn y top 'na - mae pobl wedi blino'n ofnadwy felly mae tymheredd corff pobl yn disgyn - mae 'na lot fawr o bobl yn stopio am banad jest i gynhnesu 'chydig cyn gostwng i lawr i'r llinall derfyn yn Llanberis."

Hilary, Dafydd a Siân yn cael digonedd o hwyl un flwyddyn
Ychwanegodd: "Llynadd oedd y tywydd yn ofnadwy - 'dan ni'n mynd â hen gotia' hefyd - mae pobl yn gallu ein cyrraedd ni wedi oeri'n ofandwy.
"'Dan ni'n rhoi petha' iddyn nhw fynd i'r diwadd heb oeri gormod. Maen nhw'n eu gollwng nhw ar y llinall derfyn a 'dan i'n cael nhw 'nôl flwyddyn nesa'.
"'Dan ni'n trio codi eu hysbryd nhw ac mae gynnon ni gerddoriaeth yn chwarae o hyd - petha' reit fywiog a bouncy."

Cŵn a cheffylau'n cadw cwmni cowbois Tafarn 24
Er taw Siân a Dafydd yw 'landlordiaid' Tafarn 24 ers y naw mlynedd ddiwethaf, eglurodd mai ei ffrind, Hilary Malion, wnaeth sefydlu'r orsaf fwydo ar filltir 24 yn y lle cyntaf.
"Hilary Malion ddaru setio fo i fyny rai blynyddoedd cyn i ni ei fedyddio fo fel 'Tafarn 24', wedyn ddaru ni ddechra' dod â'r fancy dress i mewn.
"Roedd Hilary'n aelod o'r elusen SARDA felly 'dan ni wedi parhau i'w cefnogi nhw, ac mae sawl un arall o wirfoddolwyr Tafarn 24 yn aelodau o SARDA."

Ydych chi wedi cael paned gan fôr leidr erioed tra'n rhedeg marathon?
Thema'r wisg eleni?
Er bod Siân yn ddigon hapus i rannu pa ddanteithion melys oedd i fod ar fwydlen Tafarn 24 cyn y diwrnod mawr, roedd un peth pwysig yn parhau'n gyfrinach.
Chwarddodd: "Mae thema'r fancy dress yn gyfrinach bob blwyddyn. Mae'r rhedwyr yn ffeindio allan wrth ein cyrraedd ni, tydi trefnwyr Marathon Eryri ddim hyd yn oed yn cael gwybod."
Y bwriad yw trosglwyddo lle pob rhedwr i ras y flwyddyn nesaf.

Gwirfoddolwyr brwd Tafarn 24 yn aros am redwyr blinedig a sychedig sydd angen siwgr a hwyl
Tan hynny, gobeithio bod ganddyn nhw stoc go dda o fisgedi custard cream yn barod ar gyfer y rhedwyr mentrus.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023
