Dyn o Lanuwchllyn i herio Luke Littler ar Netflix am gyfle i ennill £501,000

Cafodd Pwyll Edwards ei ddewis o filoedd wnaeth ymgeisio
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymro o Lanuwchllyn yn un o 20 o chwaraewyr dartiau sy'n cael cyfle i herio pencampwr y byd, Luke Littler, i geisio ennill £501,000.
Bydd Pwyll Edwards, sy'n 34 oed, yn cymryd rhan mewn digwyddiad byw ar Netflix ar 30 Hydref.
Fel rhan o'r gystadleuaeth, Beat Luke Littler, mae gwobr o £501,000 i unrhyw un sy'n llwyddo i drechu Littler mewn un leg o ddartiau 501.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Pwyll fod cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth yn brofiad unigryw.
"Oedd o'n brofiad unwaith mewn bywyd cael yr alwad ffôn," meddai. "O'n i'n pysgota pan ges i'r alwad ffôn, a nes i jyst ffonio'r wraig yn syth i ddod i nôl fi, a nathon ni jyst ddathlu yn y car!"

Luke Littler yw rhif un y byd dartiau ac mae'n wynebu 20 o chwaraewyr amatur yn y gystadleuaeth fyw ar Netflix
Bydd y cyflwynydd Gary Lineker yn arwain y digwyddiad yng Nghanolfan Gynadledda Manceinion, gyda'r awdur a'r cyflwynydd Richard Osman yn cynnig dadansoddiad arbenigol o'r chwarae.
Mae Luke 'The Nuke' Littler, sy'n 19 oed, yn rhif un y byd ac yn bencampwr byd y PDC ddwywaith, ond bydd y cystadleuwyr yn gobeithio achosi sioc iddo a hawlio'r wobr ariannol sylweddol.
Mae'r swm o £501,000 yn gyfeiriad at y sgôr 501 y mae chwaraewyr yn ceisio ei chyrraedd cyn gorffen leg mewn gêm dartiau.
Yn ôl Netflix, bydd angen i Luke Littler ennill 20 cymal yn olynol er mwyn osgoi colli'r gystadleuaeth.
'Gallu chwifio'r Ddraig Goch, gobeithio!'
Cyn cyrraedd y rownd derfynol, bu miloedd o bobl yn ceisio sicrhau lle yn y digwyddiad, gyda chlyweliadau rhanbarthol yn cael eu cynnal yn Llundain a Manceinion ym mis Medi.
Mae Pwyll yn aelod o dîm dartiau'r Eagles yn Llanuwchllyn, ac mae'n chwarae gyda'r tîm yn wythnosol.
"Ma' gynnon ni dîm bach da, dan ni'n chwarae bob nos Iau, a dan ni wedi curo'r gynghrair bum gwaith yn olynol," meddai.
Ond mae'r cyfle i gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol yn golygu llawer iddo hefyd.
"Dwi'n falch iawn bo' fi'n gallu rhoi Cymru ar y map, achos dwi isio bod ni'n gallu cario'r iaith Gymraeg a chwifio'r Ddraig Goch, gobeithio!" meddai.

Mae Pwyll (dde) yn aelod o dîm dartiau yr Eagles yn Llanuwchllyn - fydd yn mynd i'w gefnogi ar y noson
Roedd y broses ddethol yn cynnwys ceisio gorffen cymal 501 mewn 24 tafliad neu lai, cyn cyfweliad gyda chynhyrchwyr y rhaglen ac asesiad terfynol gan banel o feirniaid.
Clywodd Pwyll am y cyfle drwy hysbyseb ar Netflix, ac er bod miloedd yn ceisio cael lle yn y gystadleuaeth, penderfynodd roi cynnig arni.
"Ddaru chwaer Rhian [ei wraig] anfon y neges ata i, yn d'eud wrthai i drio fo, achos dwi fel arfer yn curo ei gŵr hi'n reit aml," meddai.
Ar ôl gwneud cais i gymryd rhan, teithiodd i Fanceinion ar gyfer y clyweliad.
"O'n i di gyrraedd Bala a sylwi bo' fi wedi anghofio fy nghot law, ond o'n i ddim yn mynd i droi nôl," meddai.
"Felly dyma fi'n cyrraedd Manceinion ac yn aros yn y glaw am oriau heb got! Cyn cychwyn chwarae, o'n i'n socian, ond o'dd o gyd werth o yn y diwedd!"

Ciwiodd miloedd o bobl yn y glaw i gael clyweliad ar gyfer rhaglen Beat Luke Littler ym mis Medi
Ar ôl ciwio am tua dwy awr a hanner, cafodd ei gyfle i chwarae un cymal o 501, gan orfod gorffen mewn 24 tafliad neu lai.
"O'dd rhaid gorffen mewn 24 o dafliadau neu lai, a lwcus, nes i neud o mewn 22," meddai.
Llwyddodd i basio'r cam cyntaf, cyn cael cyfweliadau pellach gyda chynhyrchwyr y rhaglen ac yna'r panel o feirniaid, gan gynnwys Phil Taylor, Barry Hearn a Laura Turner.
Bu'n rhaid i Pwyll aros am bythefnos cyn cael gwybod a oedd wedi cael ei ddewis.
"Ar ôl rhyw bythefnos, o'n i'n dechre teimlo'n dipyn bach yn ddigalon, achos ma'n siŵr bod dipyn wedi cyrraedd y cam yna," meddai.
Ond wedi cyfnod o aros, daeth yr alwad ffôn yr oedd Pwyll wedi bod yn gobeithio amdani - galwad oedd yn cadarnhau ei fod wedi cael lle yn y gystadleuaeth.
'Hanner miliwn yn reit handi!'
A beth fyddai ennill y wobr yn ei olygu i Pwyll?
"Dwi'n gobeithio ennill yr hanner miliwn 'de.. fysa hwnna'n reit handi!" meddai.
Mae ganddo a'i wraig, Rhian, gynlluniau i adeiladu estyniad i'w cartref, ac mae babi ar y ffordd ym mis Mawrth.
"Ia, fysa'r pres yn cyrraedd ar yr amser iawn."
Pwy yw Luke Littler?
Daeth Luke Littler i'r amlwg yn 2024, pan gyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd PDC yn 16 oed.
Daeth yn bencampwr ieuengaf y gystadleuaeth yn 2025, yn 17 oed.
Ers hynny, mae wedi ennill nifer o deitlau mawr, gan gynnwys cadw teitl Pencampwriaeth y Byd PDC, ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o brif enwau'r gamp.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2025
