Canslo Marathon Eryri a miloedd heb drydan yn sgil y tywydd garw

Mae Adeilad y Derfynfa Forol wedi cael ei ddifrodi ym Mhorth Amlwch, Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Marathon Eryri wedi canslo'r ras yn sgil y tywydd garw - roedd y ras fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y trefnwyr: "Yn dilyn asesiad o'r cwrs heddiw, daeth ein Tîm Rheoli'r Cwrs i'r casgliad nad oedd y cwrs yn ddiogel, oherwydd hyrddiau o wynt cryf, coed ar hyd y lonydd a llifogydd ar hyd y llwybrau.
"Rydym wedi bod yn cael cyngor o bob ffynhonnell bosib ac wedi ymgynghori ag arbenigwyr diogelwch.
"Er bod yr amodau wedi gwella ychydig heno, yn anffodus mae rhagolygon y tywydd ar gyfer yfory wedi gwaethygu'n sylweddol, ac felly rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd a gofidus i ganslo Marathon Eryri eleni."
Y bwriad yw trosglwyddo lle pob rhedwr i ras y flwyddyn nesaf.
Un rhybudd mewn grym o hyd
Mae miloedd o bobl wedi bod heb drydan am gyfnodau ddydd Gwener wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro Cymru.
Ganol prynhawn roedd y Grid Cenedlaethol, dolen allanol yn adrodd bod dros 3,000 o gartrefi heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.
Roedd dros 500 o gartrefi wedi colli pŵer yn ardal Clunderwen, 244 yn Llanrhidian, 234 yn Mhenfro, 174 yng Nghaerfyrddin, 166 ym Mynyddygarreg, 165 yn Llangadog a 159 yn Llanarfan.
Dywedodd y Grid Cenedlaethol bod cyflenwadau wedi eu hadfer i gannoedd o gartrefi, gan gynnwys dros 500 yn ardal Aberteifi.
Yn y gogledd roedd cartrefi'n cael eu heffeithio ym Meddgelert, Glyn Ceiriog, Gwespyr, Y Fflint a Chilcain.
Yn gynharach roedd cymunedau ym Mhwllheli, Bontnewydd, Llanidloes, Bodelwyddan, Bae Cinmel a Phrestatyn wedi eu heffeithio meddai SP Energy Networks, dolen allanol.
Mae un rhybudd melyn am dywydd garw mewn grym ar draws y wlad ar hyn o bryd.
Daeth y cyntaf i rym nos Iau am 22:00, gan effeithio ar ran helaeth o dde Cymru, a rhan fach o'r gogledd orllewin sy'n cynnwys Pen Llŷn ac Ynys Môn. Roedd hwnnw mewn grym tan 17:00 brynhawn Gwener.
Mae'r ail rybudd melyn yn effeithio gweddill Cymru, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r gogledd a'r canolbarth, a rhan fach o'r de ddwyrain. Mae disgwyl i'r rhybudd hwnnw bara tan 21:00 nos Wener.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd i fod yn barod am lifogydd, dolen allanol.

Yr olygfa yn Llandudno ddydd Gwener
Mae cwmni Stena wedi canslo rhai o'u fferïau rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Sadwrn, yn ogystal â'r fordaith am 16:00 ddydd Gwener.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud bod adeilad sy'n cael ei adnewyddu ym Mhorth Amlwch wedi cael ei ddifrodi gan y storm.
"Mae'r prosiect i adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol ym Mhorth Amlwch wedi'i atal dros dro ar ôl i Storm Austen achosi difrod i drawst newydd yn y to.
"Mae ein contractwyr wrthi'n gwneud y safle'n ddiogel," medd llefarydd.
"Er mwyn diogelwch, cynghorir trigolion i osgoi'r ardal hyd nes y rhoddir rhybudd pellach."
Ychwanegodd y cyngor fod y gwaith adnewyddu yn "rhan o'r rhaglen adfywio ehangach ar gyfer Amlwch".
Mae bwyty Tafell a Tân yn Llangrannog wedi gorfod cau oherwydd bod cymaint o dywod wedi chwythu oddi ar y traeth gan orchuddio blaen yr adeilad
Yn Llangrannog, mae bwyty Tafell a Tân wedi gorfod cau oherwydd bod cymaint o dywod wedi chwythu oddi ar y traeth tuag at y pentref gan orchuddio blaen yr adeilad.
Wrth siarad â rhaglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru dywedodd y perchennog Huw Reed nad oedd yn cofio golygfa debyg.
"Sai'n cofio fe'n bod fel hyn ers sbel, os eriod.
"Jest oherwydd bod cymaint o tywod ar y traeth ar y funud, smo ni wedi cael y stormydd i olchi'r tywod bant to, a wedyn mae'r gwynt wedi codi'r cwbl lot a jest rhoi e lawr y maes parcio.
"Dim ond ochr ni rili, mae'r ochr lle mae'r cychod a'r Pentre Arms wedi safio'r tywod.
"Mae cymaint o tywod ochr ni o'r traeth, mae o fel bo chi'n mynd drwy sandblaster ar y ffordd mewn i'r caffi, felly mae'n amhosib agor y drws hyd yn oed heb cael covering o tywod drwy'r caffi i gyd."
Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn y de a'r canolbarth yn ystod Storm Austen
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Mae'r giatiau llifogydd yn Aberaeron wedi cael eu cau, meddai Cyngor Ceredigion, gan gynghori pobl i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio, ac i gadw draw o arfordiroedd gwyntog.
Maen nhw hefyd yn cynghori trigolion i gadw llygad ar y rhagolygon y tywydd, yn enwedig cyn dechrau taith.
Ychwanegodd y cyngor bod angen "cymryd gofal arbennig o amgylch coed a strwythurau a allai gael eu heffeithio gan wyntoedd cryf".
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, dolen allanol.

Mae coeden wedi disgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân
Mae'r tywydd yn achosi rhywfaint o drafferthion i deithwyr gydag oedi sylweddol yn bosib mewn mannau.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru mewn datganiad ei bod hi'n bosib y bydd gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Amwythig yn cael eu canslo, neu eu gohirio hyd at awr ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân.
"Rydyn ni'n ymwybodol fod coeden ar y lein yng Nghwmbrân. Am resymau diogelwch ni fydd gwasanaethau trên yn gallu teithio drwy'r ardal," meddai'r cwmni.
"Mae Network Rail/Amey Infastructure yn ymwybodol o'r broblem ac mae staff ar eu ffordd i geisio datrys y sefyllfa."
Maen nhw'n cynghori teithwyr i wirio eu gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.