Morgannwg yn wynebu talcen caled yn erbyn Caint
- Cyhoeddwyd

Mae gan Forgannwg fynydd i'w ddringo yn erbyn Caint yng Nghaergaint lle llwyddodd y tim cartre i gyrraedd 156 am 2 hyd yn hyn ar ddiwrnod olaf y gêm bencampwriaeth.
Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd y tîm cartref wedi sgorio 310 am bedair wiced, gan gynnwys 100 yr un i fatiwr prawf India'r Gorllewin, Brendan Nash, a Darren Stevens.
Ond cipiodd Huw Waters ddwy wiced gynnar - wicedi Nash (114) gafodd ei ddal gan y capten Mark Wallace, a Stevens (123) gafodd ei ddal gan Dean Cosker.
Roedd troellwr Lloegr, James Tredwell, allan am 11 rhediad a chipiodd Dean Cosker ei wiced gyntaf wrth i Jim Allenby ddal Matthew Coles wedi 26 rhediad.
Bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg ym mhatiad cyntaf Caint oedd James Harris wnaeth gipio pum wiced am 109 rhediad oddi ar 31 o belawdau.
Enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn yr Ail Adran eleni wedi iddyn nhw guro Sir Northampton ddydd Mawrth.
Ond maen nhw ar waelod yr adran o hyd.
Caint v Morgannwg (diwrnod olaf)
Caint: (Batiad cyntaf):456 am 9
(Ail fatiad) 156 am 2 (48.3 pelawd)
Morgannwg: (Batiad cyntaf) 389 i gyd allan (112.1 pelawd)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012