Pallial: Dyn 76 oed gerbon ynadon
- Cyhoeddwyd

Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA)
Bydd dyn 76 oed o Wrecsam yn ymddangos gerbron Ynadon Yr Wyddgrug ar 16 Hydref i wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen.
Mae'r erlyniad yn honni fod Roger Owen Griffiths wedi cyflawni'r troseddau rhwng 1982 a 1984, pan oedd y bachgen rhwng 12 a 14 oed.
Daeth y cyhuddiadau yn sgil ymgyrch Pallial, ymchwiliad annibynnol gan Yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) i honiadau diweddar o gam-drin hanesyddol yn y system gofal yng ngogledd Cymru.
Mae swyddogion yr NCA wedi arestio 21 o bobl fel rhan o ymgyrch Pallial - o'r rhain mae 13 wedi eu cyhuddo, tra bod y gweddill ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Erbyn 21 Awst, 2014 roedd 283 o bobl wedi cysylltu ag ymgyrch Pallial gan gwyno am un neu fwy o ddigwyddiadau honedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2014

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd9 Mai 2014

- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013
