Doeddwn ond yn gweld un ffordd allan, rhaid rhannu'r baich - Gareth Parry

Mae Gareth Parry yn teimlo ei fod mewn lle gwell erbyn hyn
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cyfeirio at hunanladdiad
Mae ffermwr ifanc a wnaeth geisio lladd ei hun yn gynharach eleni yn bwriadu codi arian i elusen yn y maes er mwyn helpu eraill yn yr un sefyllfa.
Bu Gareth Parry o Lanbabo, Ynys Môn mewn coma am 36 awr yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cymryd gorddos o dabledi.
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd: "Mi oeddwn i'n gweithio yn llawn amser ac yng nghanol defaid ac ŵyn adra. Mi oeddwn i'n gweithio, gweithio, gweithio.
"A duw, nes i ddeud anghofia hyn ai am y pub. 'Oedd y Chwe Gwlad ymlaen a 'nes i feddwi a mynd adra a deud, 'fedra i ddim gwneud hyn dim mwy'.
"'Oeddwn i'n suffero hefo iechyd meddwl beth bynnag... doeddwn 'mond yn gweld un ffordd allan ar yr adeg."
Dywedodd Gareth ei fod wedi gyrru negeseuon yn ymddiheuro cyn ceisio lladd ei hun, ac mai'r "peth nesa' dwi'n ei gofio ydi deffro ym Mangor ar drip ac mewn induced coma am 36 awr".
Mae Gareth yn dweud bod ei gyflogwr wedi bod yn arbennig o dda, a heb roi pwysau arno i ddychwelyd i'r gwaith.
Ond mae'n ategu bod yr euogrwydd am yr hyn a wnaeth wedi ei lethu.
"Wnes i ddim 'neud llawer o ddim byd am dair wythnos. 'Ista yn y tŷ yn teimlo'r euogrwydd. Be' oeddwn i wedi ei neud i Mam, Dad a 'mrawd a theulu 'mrawd, a just cywilydd yn fwy na dim."
Erbyn hyn mae'n teimlo bod ei iechyd meddwl mewn lle gwell wrth iddo a'i fam geisio rhoi'r fferm deuluol yn ôl ar ei thraed.
"Mae Dad mewn cartref hefo dementia a dwi yn fwy neu lai wedi cymryd rheolaeth o'r ffarm adra hefo Mam ac wedi gorfod cychwyn o scratch.
"Da ni'n buildio petha nôl i fyny yn ara' deg i gael y fferm lle dylsa fo fod nôl yn broffidiol - ond mae'n struggle."
'Gola' yn niwedd y twnnel yn agosáu'
Bellach yn 33 oed bu Gareth yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol, ac yn ddiweddar bu'n hyfforddi aelodau iau ar gyfer eisteddfod y mudiad ym Môn.
"Faswn i ddim y person ydw i o ran person heb y mudiad. Mae gen i lot o ddiolch i'r mudiad."
Ond fel un sy'n byw a gweithio yng nghefn gwlad mae'n tanlinellu pa mor bwysig ydy siarad am iechyd meddwl.
"Dwi'n berson jolly. Dwi ddim yn berson hefo golwg drist arna i. Dwi'n happy go lucky ond 'da chi ddim yn gwybod pwy mae iechyd meddwl yn effeithio a rhoi wyneb ymlaen.
"Yn enwedig yn y diwydiant amaeth 'da ni ddim yn siarad digon. Mae'n bwysig siarad.
"Dwi'n teimlo lot gwell mod i'n siarad rŵan yn lle bo fi'n gadw fo mewn. Mae'n rhaid rhannu'r baich, os 'da chi yn gadw fo i mewn mae'n stewio ac yn diwadd mae'r ffiws yn mynd."
Fis Tachwedd bydd Gareth yn cerdded 100 milltir er mwyn codi arian ar gyfer sefydliad y Mental Health Foundation.
"Mae'r gola' yn niwedd y twnnel yn agosáu yn ara' deg.
"Mae 'na lot o waith i fynd ddim just adra ond arna fi fy hun. Dwi 'di dysgu cymryd step yn ôl yn lle mynd 100 milltir yr awr.
"Mae angen arafu a sylweddoli bod mwy i fywyd na gwaith a chanolbwyntio ar eich iechyd meddwl."
Os yw cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi


