Dyn, 66, yn pledio'n euog i lofruddio mam i bedwar ar ôl ffrae

Charlene DowsellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charlene Dowsell wedi'r digwyddiad yng Nghasnewydd ym mis Gorffennaf

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 66 oed wedi pledio'n euog i lofruddio dynes yng Nghasnewydd yn dilyn ffrae.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion heddlu arfog, eu hanfon i Heol St Vincent mewn ymateb i adroddiadau o ffrae y tu allan i eiddo yn ystod yr oriau mân ddydd Sadwrn,18 Gorffennaf.

Bu farw Charlene Dowsell, a oedd yn fam i bedwar o blant, ychydig bellter i ffwrdd ger Heol Cas-gwent, er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hachub.

Mae Albert Williams, o Heol Ruperra, wedi pledio'n euog i lofruddio yn Llys y Goron Caerdydd a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 21 Rhagfyr.

Heol St Vincent, Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau o ffrae tu allan i eiddo yn Heol St Vincent ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf

Roedd teulu Ms Dowsell, a oedd yn y llys, mewn dagrau yn yr oriel gyhoeddus wrth i'r ple gael ei gyflwyno.

Mewn datganiad cynharach, dywedon nhw eu bod wedi cael eu "calonnau wedi torri", a bod ei phedwar plentyn wedi cael eu gadael "heb fam".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig