Dedfrydu cyfreithiwr 'barus' a dwyllodd elusen gydag anfonebau ffug

Clywodd y gwrandawiad y byddai'r arian gafodd ei golli o ganlyniad i weithredoedd Fogg wedi gallu talu am 48 biopsi
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithiwr wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl defnyddio anfonebau ffug i dwyllo elusen canser.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Michael Fogg, 47 oed o Gaerdydd, wedi cynnig helpu Cancer Research UK gyda'u cynllun ysgrifennu ewyllysiau am ddim.
Ond pan gysylltodd yr elusen gyda phobl yr oedd Fogg yn honni eu cynrychioli, daeth i'r amlwg nad oedden nhw wedi derbyn cymorth ganddo.
Mewn gwrandawiad ddydd Gwener, cafodd ddedfryd o 10 mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Fogg wedi derbyn £18,000 gan yr elusen
Mae cynllun ewyllysiau am ddim Cancer Reasearch UK wedi bod yn weithredol ers 25 mlynedd, ac mae cyfreithwyr sy'n cael eu cyflogi i wneud y gwaith yn gallu hawlio £120 am un ewyllys.
Fe lansiodd yr elusen ymchwiliad i'r mater ar ôl iddi ddod i'r amlwg nad oedd cyfeiriadau rhai o gleientiaid Fogg yn bodoli.
Roedd pobl eraill, yr oedd Fogg yn honni oedd yn gleientiaid iddo, yn dweud nad oedd o wedi helpu paratoi unrhyw ddogfennau ar eu rhan.
Clywodd y llys fod cwmni Fogg, Trusting Willpower Ltd, wedi ceisio hawlio £29,090 gan yr elusen.
Cafodd £18,150 ei dalu i'r cwmni, ond cafodd gweddill yr arian ei ddal nôl tan fod rhagor o eglurder am y sefyllfa.
Ar ôl dod o hyd i ragor o broblemau wrth geisio cysylltu â chleientiaid honedig Fogg cafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu.

Nid yw Michael Fogg yn gweithio fel cyfreithiwr bellach
Cafodd Fogg ei arestio ac wrth gael ei holi gan yr heddlu fe wnaeth o wadu ei fod wedi twyllo'r elusen.
Dywedodd yr erlyniad fod y cyhuddiad o dwyll yn ymwneud yn benodol â 40 o anfonebau oedd yn ceisio hawlio £4,800.
Mewn datganiad dioddefwr, dywedodd llefarydd ar ran Cancer Research UK nad yw'r elusen yn elwa yn ariannol mewn unrhyw ffordd o'r cynllun ewyllysiau am ddim, a bod yr arian gafodd ei hawlio gan Fogg yn arian fyddai wedi gallu mynd tuag at helpu dioddefwyr canser.
Yn ôl yr amddiffyniad, mae Fogg yn teimlo cywilydd am y modd wnaeth o ymddwyn.
Dywedodd y barnwr Carl Harrison fod Fogg "wedi defnyddio ei swydd i ariannu dy farusrwydd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.