Taid 'heini' 92 oed wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn weiren bigog ar fynydd

Malcolm KittsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Kitts wedi mynd i gerdded ar Fynydd Maerdy ar y diwrnod yr aeth ar goll

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bu farw taid "heini" ar ôl mynd yn sownd mewn weiren bigog tra allan yn cerdded, mae cwest wedi clywed.

Roedd Malcolm Kitts wedi dathlu ei ben-blwydd yn 92 oed gyda pharti teuluol ychydig ddyddiau cyn cychwyn o'i gartref ar un o'i deithiau cerdded dyddiol ar 21 Medi.

Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod teulu Mr Kitts wedi ffonio 999 wedi iddo fethu â dychwelyd adref.

Cafodd ymgyrch chwilio ei lansio, yn cynnwys timau achub mynydd, a chafodd Mr Kitts ei ddarganfod ar Fynydd Maerdy y diwrnod canlynol yn sownd mewn ffens weiren bigog ac yn dioddef o hypothermia.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw ar 1 Hydref.

'Dementia cronig yn ffactor sylweddol'

Dywedodd y Crwner Graeme Hughes: "Er gwaethaf ei oed roedd Malcolm Kitts yn berson heini.

"Roedd yn dioddef o ddementia a oedd wedi arwain ato'n mynd yn ddryslyd o dro i dro.

"Ar 21 Medi 2026 gadawodd ei gartref yng Nghwmdâr am dro, ac ni ddychwelodd fel y disgwyliwyd.

"Cafodd ei ddarganfod mewn sefyllfa eithafol ar Fynydd Maerdy yn dilyn ymgyrch chwilio.

"O dan amgylchiadau anhysbys roedd ei goes chwith wedi mynd yn sownd mewn weiren bigog ac nid oedd wedi gallu rhyddhau ei hun.

"Cafodd ei gludo, yn wael iawn, i Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd. Roedd ei ragolygon yn wael oherwydd cymhlethdodau ei anafiadau a arweiniodd at orwedd yn hir. Bu farw o'r cymhlethdodau hynny ar 1 Hydref 2026."

Yn ei gasgliad, dywedodd y crwner: "Bu farw Mr Kitts o gymhlethdodau yn dilyn cwymp, neu gwymp tebygol, a arweiniodd at ei goes yn mynd yn sownd a chymhlethdodau o fod yn gorwedd am hir.

"Mae'n debyg bod ei ddementia cronig hefyd yn ffactor sylweddol."

Wrth siarad ar ôl i Mr Kitts gael ei ddarganfod, fe wnaeth ei wraig, Joyce, ganmol yr heddlu, timau achub a'r gwirfoddolwyr a aeth i chwilio amdano.

"Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r heddlu, roedden nhw'n wych yn cadw mewn cysylltiad a'n cydlynu'r ymgyrch chwilio.

"Roedd yr achubwyr mynydd a ddaeth o hyd iddo hefyd yn hanfodol wrth gydlynu a rhoi gwybodaeth ar gyfer chwiliadau.

"Y gwasanaethau brys a helpodd i drin Malcolm pan gafodd ei ddarganfod a'i gludo i'r ysbyty."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig