Rhybuddio ardaloedd arfordirol i baratoi am lifogydd oherwydd llanw uchel

Daw'r rhybudd melyn am wynt i rym am 18:00 brynhawn Llun
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryf ddydd Llun a rhybuddion i fod yn barod am lifogydd oherwydd llanw uchel wedi i Storm Boelo daro'r wlad dros y penwythnos.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol fod y storm am ddod â chyfnod gwyntog a gwlyb iawn dros y penwythnos, gyda rhywfaint o darfu ar gynlluniau yn debygol.
Ddydd Llun mae rhybudd melyn am wyntoedd cryf mewn grym rhwng 18:00 ac 03:00 fore Mawrth.
Mae disgwyl hyrddiadau o rhwng 45-50mya o fewn ardaloedd y rhybudd, tra bod hyrddiadau 65mya yn bosib ar hyd yr arfordir.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol; Pen-y-bont, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae rhybuddion i fod yn barod am lifogydd mewn ardaloedd arfordirol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) oherwydd y gwyntoedd cryf a'r tonnau uwch ac mae'n bosib canfod mwy o wybodaeth am y rhain ar y wefan, dolen allanol.

Cafodd ffordd yr A48 ei chau rhwng Trelái a Threganna ddydd Sul, oherwydd bod lefel yr Afon Elái yn uchel
Roedd rhybudd am wynt wedi bod mewn grym ers amser cinio ddydd Sadwrn tan 21:00 nos Sul.
Mi gafodd chwyth gwynt o 84mya ei gofnodi yng Nghapel Curig ac ar fore Sul roedd nifer o bobl yn dal heb drydan ar draws Cymru.
Rhannodd yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi bod yn delio gyda digwyddiadau llifogydd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys yr A473, Trefforest, Pontypridd, a Chaerdydd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yno "swm sylweddol o lanast a choed wedi disgyn ar yr A470 rhwng cylchfan y 'Black Cat' a Llanrwst" ac i bobl gymryd gofal yn yr ardal honno.
Cafodd ffordd yr A48 ei chau rhwng Trelái a Threganna ddydd Sul, oherwydd bod lefel yr Afon Elái yn uchel. Roedd y bont gerdded ar agor am tua 11:00.

Roedd coeden wedi disgyn yn y Rhath, Caerdydd, ben bore Sul
Mae bysiau'n gweithredu yn lle nifer o drenau Trafnidiaeth Cymru oherwydd llifogydd a thywydd garw.
Dywedodd y Grid Cenedlaethol fod dwsinau o drenau wedi'u canslo ac mae'n bosib gweld mwy o fanylion am y teithiau yma, dolen allanol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn delio â nifer o adroddiadau am goed wedi disgyn hefyd.
Mi ganslodd cwmni Stena y fferi oedd yn fod i fynd o Gaergybi i Ddilyn am 10:00 fore Sul a dywedon nhw y gallai gwasanaethau eraill gael eu gohirio oherwydd y tywydd hefyd.
Mae Irish Ferries hefyd wedi canslo dwy fordaith rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Sul, ac y gallai gwasanaethau'r prynhawn adael yn gynnar.
Cafodd y fferi o Benfro i Rosslare ei chanslo fore Sul hefyd, ond roedd disgwyl i fordeithiau diweddarach fynd yn eu blaenau.

Y dŵr yn tasgu yng Nghriccieth
Mae miloedd o gartrefi wedi colli trydan am gyfnodau dros y penwythnos, o ganlyniad i effaith stormydd Austen a Boelo.
Ym Mhorth Amlwch, mi gafodd gwaith adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol ei atal dros dro ar ôl i'r storm ddifrodi trawst newydd yn y to.
Mi ganslodd Stena Line rai teithiau fferi hefyd rhwng Caergybi a Dulyn.
Penderfynodd trefnwyr Marathon Eryri i ganslo'r ras eleni, oedd yn fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn
Dywedodd y trefnwyr fod asesiad o'r cwrs wedi dangos nad oedd yn ddiogel, oherwydd gwyntoedd cryfion, coed ar y ffyrdd a llifogydd ar hyd y llwybrau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
